Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Rheoli Adeiladu

Dyddiad Cau: 12/08/2026

Cyfeirnod: REQ106803

37 awr / Parhaol

39,152 - 40,777 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym yn dymuno recriwtio unigolyn brwdfrydig sydd â chymhelliant uchel i fod yn rhan o’r tîm Rheoli Adeiladu ar sail barhaol, llawn amser.

Fel rhan o’r Gwasanaeth Cynllunio ehangach, sy’n ymdrin â dyletswyddau a gofynion statudol o dan y Rheoliadau Adeiladu a deddfwriaeth gysylltiedig arall, bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth fonitro a rheoleiddio datblygiadau ledled y sir.

O ddydd i ddydd, byddwch yn:

  • Asesu ceisiadau Rheoliadau Adeiladu a’r wybodaeth ategol.
  • Cynnal archwiliadau safle i asesu cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Adeiladu a deddfwriaeth gysylltiedig.
  • Darparu cyngor technegol proffesiynol, diduedd ac ymarferol i ymgeiswyr, asiantau, contractwyr ac aelodau o’r cyhoedd.
  • Cefnogi ymateb statudol y Cyngor i adeiladau peryglus.
  • Cyfrannu at Wasanaeth Rheoli Adeiladu effeithiol, effeithlon, ymatebol ac o ansawdd uchel.
  • Cyfrannu at weithredu newidiadau deddfwriaethol sy’n deillio o Reoliadau Adeiladu (Cymru) 2024 a 2025.
  • Darparu cymorth i’r Gwasanaeth Cynllunio ehangach pan fo angen.

Rydym yn dymuno recriwtio unigolyn sydd:

  • Â gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu gyfuniad cyfatebol o wybodaeth a phrofiad ym maes Rheoli Adeiladu.
  • Yn Arolygydd Adeiladu Cofrestredig ar Ddosbarth 2(a–f) neu uwch.
  • Yn gallu cyfathrebu’n ddiduedd, yn broffesiynol ac yn effeithiol ag ystod eang o bobl ar wahanol lefelau.
  • Yn gallu gweithio gyda goruchwyliaeth gyfyngedig a rheoli blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd a therfynau amser tynn.
  • Â ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel ac i sicrhau boddhad cwsmeriaid. 

Mae’r swydd yn gofyn am rywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Sylwer y bydd ymgeisydd llwyddiannus nad oes ganddo’r sgiliau Cymraeg gofynnol yn cael ei gefnogi’n llawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd i’w benodi.

I gael gwybodaeth fanwl am y rôl hon, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar wefan gyrfaoedd y Cyngor, gan gynnwys manylion am yr hyn y gallwn ei gynnig a’r ffordd o fyw y gallwch ei disgwyl. Mae Ceredigion yn cael ei chydnabod fel un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddi, gyda diwylliant bywiog, ysgolion rhagorol, arfordiroedd hardd a chefn gwlad tonnog.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Jeremy Holmes, Prif Swyddog Rheoli Adeiladu / Geraint Williams, Rheolwr Gwasanaeth, ar 01545 572482.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Economi ac Adfywio

Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

  • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
  • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
  • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy