Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 17/08/2026
Cyfeirnod: REQ106817
37 awr / Parhaol
35,412 - 37,280 *
Penmorfa, Aberaeron
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Craffu a Safonau i ymuno â’n Gwasanaethau Democrataidd.
Bydd y rôl yn cynorthwyo i ddarparu cymorth a chyngor mewn perthynas â swyddogaethau trosolwg a chraffu’r Cyngor, gan gefnogi Aelodau Etholedig, cadeiryddion pwyllgorau, swyddogion ac eraill i sicrhau trefniadau craffu effeithiol. Bydd y swydd hefyd yn cefnogi’r rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer Aelodau, hyrwyddo prosesau democrataidd y Cyngor, a chynorthwyo’r Swyddog Monitro gyda swyddogaethau sy’n ymwneud â’r Pwyllgor Moeseg a Safonau.
Byddwch yn trefnu, cydlynu a chefnogi gwaith craffu, gan gynnwys paratoi a chyhoeddi agendâu, cydlynu camau gweithredu, cynorthwyo gydag adolygiadau, paratoi adroddiadau, darparu cyngor ar weithdrefnau llywodraethu, a gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid mewn amgylchedd gwleidyddol sensitif.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â gradd, cymhwyster cyfatebol neu brofiad perthnasol i’r rôl, ynghyd â phrofiad o weithio mewn llywodraeth leol, y sector cyhoeddus neu sefydliad cymhleth aml-swyddogaeth. Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol, gallu i weithio gyda goruchwyliaeth gyfyngedig, sgiliau dadansoddi da, gwydnwch, proffesiynoldeb ac ymwybyddiaeth wleidyddol gadarn.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu dehongli a chymhwyso Cyfansoddiad y Cyngor, deddfwriaeth a chanllawiau statudol perthnasol, yn ogystal â defnyddio sgiliau TGCh cadarn mewn gwaith bob dydd.
Mae’r swydd yn barhaol, yn llawn amser, 37 awr yr wythnos, Gradd 9, gyda chyflog o £35,412 – £37,280. Mae’r swydd wedi’i lleoli ym Mhenmorfa, Aberaeron gyda threfniadau gweithio hybrid.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon: Lefel 5 ALTE ar gyfer gwrando a siarad, a Lefel 4 ar gyfer darllen ac ysgrifennu.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Nia Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd ar nia.jones5@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth esmwyth ac effeithlon ar broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i Gynghorwyr; Cefnogaeth PA, gweinyddol a rheoli prosiect i bob maes gwasanaeth; hwyluso etholiadau; tim cyfathrebu; cyfieithu a swyddog polisi Iaith Gymraeg. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys