Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweinyddydd Cymorth i’r Gwasanaethau

Dyddiad Cau: 12/08/2026

Cyfeirnod: REQ106818

37 awr / Parhaol

25,185 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Mae cyfle llawn amser wedi codi i ymuno â’r Tîm Cymorth Gwasanaeth Corfforaethol. Mae’r tîm yn darparu cymorth gweinyddol i bob agwedd ar yr awdurdod, ond bydd y rôl hon fel Gweinyddydd Cymorth i’r Gwasanaethau, yn bennaf yn darparu cymorth gweinyddol i dimau Diogelu’r Cyhoedd a Thrwyddedu’r Cyngor. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi darparu gwasanaethau effeithiol ar draws swyddogaeth a rhwymedigaeth diogelu’r cyhoedd y Cyngor, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i breswylwyr, busnesau a sefydliadau partner.

Ynglŷn â’r rôl:

Bydd disgwyl i’r Gweinyddydd Cymorth i’r Gwasanaethau ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau sy’n gysylltiedig ag amgylchedd swyddfa prysur sy’n cynnwys:

  • Cynnal a diweddaru cofnodion electronig a phapur, cronfeydd data a systemau rheoli achos a chofnodion cysylltiedig i sicrhau cywirdeb a chydymffurfiaeth.
  • Gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol ac ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol sy’n ymwneud â’r gwasanaeth, ei wybodaeth a’i gofnodion.
  • Darparu cymorth gweinyddol wrth brosesu trwyddedau, ceisiadau, trwyddedau, cofrestriadau a dogfennaeth gysylltiedig yn unol â deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau.
  • Paratoi a dosbarthu adroddiadau, llythyrau, hysbysiadau, agendâu cyfarfodydd, cofnodion a dogfennaeth gwasanaeth arall.
  • Cefnogi cydlynu arolygiadau, ymchwiliadau, gwrandawiadau, cyfarfodydd a phenodiadau.
  • Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol ochr yn ochr â Swyddogion Cymorth i’r Gwasanaethau eraill.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol, polisïau’r cyngor, gofynion iechyd a diogelwch, a safonau llywodraethu gwybodaeth.
  • Cyfrannu at fentrau gwella gwasanaethau a chefnogi’r gwaith o weithredu prosesau a systemau newydd.

Ynglŷn â’r Ymgeisydd:

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol, gydag awydd gwirioneddol i gyfrannu at ddarparu gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a Thrwyddedu’r Cyngor yn effeithiol. Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fodloni’r meini prawf canlynol:

  • 5 TGAU neu gyfatebol, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch neu sydd â phrofiad cyfatebol, gyda chefndir mewn rolau gweinyddol neu gymorth gwasanaeth.
  • Sgiliau TG cryf, gan gynnwys Microsoft Word, Excel ac Outlook, a phrofiad technegol o ddefnyddio systemau TGCh (e.e. WCCIS, Insight, Clic, Tascomi).
  • Yn hyblyg ac yn gallu rheoli blaenoriaethau a dyddiadau cau cystadleuol.
  • Arddangos sgiliau trefnu rhagorol a sylw i fanylion.
  • Cyfathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Yn gallu adeiladu perthynas waith ardderchog gyda chydweithwyr mewnol.
  • Dealltwriaeth gadarn o brosesau gweinyddol.

Cefnogir dysgu Cymraeg o fewn y Cyngor, gyda chyfleoedd hyfforddi ar gael i gefnogi i gyrraedd y lefelau Cymraeg penodedig.

Ein cynnig:

Credwn fod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig iawn. Er mwyn eich cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

Gweithio Hybrid: Yn amodol ar amodau penodol yn cael eu bodloni, gallwch ddewis gweithio gartref neu mewn lleoliad swyddfa er y bydd anghenion y rôl yn gofyn am bresenoldeb rheolaidd yn y swyddfa.

Amser hyblyg: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal: Wythnos yn dechrau: 17/08/26.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Keith Dale keith.dale@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaethau Democrataidd

Rydym yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth esmwyth ac effeithlon ar broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i Gynghorwyr; Cefnogaeth PA, gweinyddol a rheoli prosiect i bob maes gwasanaeth; hwyluso etholiadau; tim cyfathrebu; cyfieithu a swyddog polisi Iaith Gymraeg. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys

  • Cefnogaeth Gwasanaeth Corfforaethol: PA a chefnogaeth weinyddol; Cymorth busnes gan gynnwys rheoli prosiect a chymryd cofnodion.
  • Gwasanaethau Democrataidd: Cynghorwyr; Pwyllgorau a Phwyllgorau Rheoleiddio Cyngor, Cabinet, Trosolwg a Chraffu.
  • Gwasanaethau Etholiadol: Etholiadau cyffredinol a lleol; Rheoli’r gofrestr etholiadol.
  • Tim Cyfathrebu: Rheoli gweithgareddau cyfathrebu yn gorfforaethol; rhoi cymorth i wasanaethau mewn ymgyrchoedd a phrosiectau; delio â’r wasg a’r cyfryngau; datblygu a chyhoeddi datganiadau i’r wasg; rheoli tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
  • Cyfieithi: Dogfennau a chyfieithu ar y pryd.
  • Safonau’r Iaith Cymraeg: Gweithredol; Llunio polisi; Hyrwyddo; Monitro; Darparu gwasanaeth.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy