Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Prosiect a Datblygu Busnes

Dyddiad Cau: 19/08/2026

Cyfeirnod: REQ106827

37 awr / Parhaol

35,412 - 37,280 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym yn chwilio am Swyddog Prosiect a Datblygu Busnes i ymuno â’n Gwasanaeth Economi ac Adfywio.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o’r tîm sy’n cyflawni Strategaeth Economaidd Ceredigion 2020–2035, gan helpu pobl, lleoedd a mentrau ledled Ceredigion i ffynnu a thyfu.

Prif ffocws y rôl fydd rheoli a chyflawni rhaglenni Cronfa Twf Lleol a Chronfa Effaith Balchder Bro yng Ngheredigion. Os oes gennych brofiad mewn rheoli prosiectau, datblygu economaidd mewn busnes, twristiaeth, neu mentergarwch cymunedol, gallai hwn fod yn gyfle i chi.

Byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth ysgogi cymunedau a busnesau Ceredigion i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau, arloesi, cydweithio ac ymateb i heriau lleol. Mae’r gwaith yn amrywiol ac yn esblygu, felly rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu meddwl yn greadigol, ymateb yn gadarnhaol i heriau a nodi atebion ymarferol.

Byddwch yn helpu i lunio dyfodol cymunedau ar draws y sir wrth gefnogi uchelgais y Cyngor i greu trefi ffyniannus, canolog i bobl ac ymwrthol. Disgwylir i chi gynnal proffil lleol gweledol, adeiladu perthnasoedd cadarnhaol â phobl leol a chefnogi lleoedd i ddatblygu mewn ffyrdd sy’n diwallu anghenion a dyheadau’r gymuned.

O ddydd i ddydd, byddwch yn:

  • Cydlynu, hwyluso a rheoli proseictau Cronfa Twf Lleol a Chronfa Effaith Balchder mewn Lle i gefnogi ac adfywio busnesau, cymunedau a chanol trefi Ceredigion.
  • Hwyluso ymgysylltiad, cyfranogiad a mentora gyda nifer o sefydliadau yn y sector cymunedol, cyhoeddus a phreifat i gefnogi datblygiad eu gweithgareddau.
  • Gweithio gyda sefydliadau a busnesau lleol i nodi a chael mynediad at gyfleoedd cyllido sy’n diwallu eu hanghenion.
  • Datblygu a gweithredu systemau monitro i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cynlluniau cyllido.

Rydym yn chwilio am rywun â:

  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, gan gynnwys y gallu i adeiladu perthnasoedd gwaith adeiladol gydag unigolion a sefydliadau yn y sectorau busnes, cymunedol a chyhoeddus.
  • Profiad o reoli a chyflwyno prosiectau.
  • Y gallu i feddwl yn arloesol ac yn strategol.
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth a datblygu cyfleoedd cydweithredol.
  • Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno addas ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd.
  • Brwdfrydedd dros adfywio lleol a gweithgarwch cymunedol.
  • Y gallu i weithio’n hyblyg, defnyddio eich menter eich hun a mabwysiadu dull rhagweithiol.

Mae’r swydd hon yn cael ei hariannu drwy Gronfa Twf Lleol Llywodraeth y DU.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, rydym yn cynnig ystod o fanteision i weithwyr, gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniad pensiwn hael. Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o fanteision i weithwyr ar gael yma.

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am ragor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â Catrin George ar catrin.george@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Economi ac Adfywio

Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

  • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
  • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
  • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy