Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 30/08/2026
Cyfeirnod: REQ106832
37 awr / Parhaol
26,403 - 27,694 *
Penmorfa, Aberaeron
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn chwilio am Glerc Cyfreithiol brwdfrydig i ddarparu cymorth i dîm y Gwasanaethau Cyfreithiol. Bydd y rôl wedi’i lleoli’n bennaf o fewn y tîm gofal plant/oedolion, er y bydd disgwyl i chi roi cymorth i aelodau eraill o’r tîm o bryd i’w gilydd.
Byddwch yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm, yn gallu gweithio dan bwysau ac o fewn terfynau amser tynn ac yn medru gweithio ar eich liwt eich hun. Ar ôl derbyn hyfforddiant ar weithdrefnau’r Llys Teulu, byddwch yn gallu trefnu a blaenoriaethu eich gwaith yn effeithiol. Disgwylir i chi gael datgeliadau yng nghyswllt achosion cyfraith teulu, golygu dogfennau drwy guddio gwybodaeth sensitif, a’u huwchlwytho i borth electronig y Llys. Mae cyfrinachedd yn hollbwysig yn y rôl hon, ynghyd â “llygad craff” am fanylion wrth olygu dogfennau.
Disgwylir i chi fynd i’r llys o bryd i’w gilydd gan eistedd y tu ôl i Fargyfreithwyr a darparu adroddiadau i’r Cyfreithiwr sy’n ymwneud â’r achos.
Bydd gennych brofiad o weithio gyda gweithwyr proffesiynol, defnyddio systemau cyfrifiadurol, a gweithio mewn amgylchedd swyddfa. Byddai profiad cyfreithiol yn fanteisiol.
Yn gyfnewid am hynny, byddwch yn ymuno â thîm bach, cyfeillgar a chefnogol, lle bydd hyfforddiant a chefnogaeth ar gael pan fo angen. Byddwch hefyd yn derbyn 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â gwyliau cyhoeddus, trefniadau amser hyblyg, a chynllun pensiwn hael.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y tîm drwy helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â Chyfarwyddiadau’r Llys.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch ag Alison Evans drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost at Alison.Evans2@Ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol a thryloyw drwy ddarparu cyngor cyfreithiol corfforaethol a gweithredol, archwilio, sicrwydd gwrthrychol a chymorth ar draws pob maes gwasanaeth sy’n golygu bod lles a rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor yn cael eu cadarnhau, a darparu sicrwydd ar lywodraethu, risg a rheolaethau mewnol.