Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gyrrwr Cludiant

Dyddiad Cau: 02/09/2026

Cyfeirnod: REQ106837

30 awr / Parhaol

25,185 *

Depo Glanyrafon, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Ynghylch y swydd

Wyt ti erioed wedi ystyried gweithio fel Gyrrwr Trafnidiaeth gyda Chyngor Ceredigion? Rydym am ymestyn ein tîm ac mae dy angen di arnom!

Wyt ti’n mwynhau gofalu am eraill ac yn edrych am her newydd? Ymuna a’n tîm gweithgar, cyfeillgar a chefnogol o fewn yr Adran Drafnidiaeth.

Rydym yn chwilio am Gyrrwr cludiant i weithio o: Glanyrafon – Aberystwyth

I ymgymryd â

  • Gwethgareddau gyrru sy’n ymwneud a thrafnidiaeth plant.  
  • Gweithgareddau gyrru sy’n ymwneud a thrafnidiaeth ar gyfer cleientiaid oedrannus / neu gleieintiaid ag anabledd.
  • Cwblhau cofnodion electronig ac ar bapur sy’n berthnasol i’r rôlgwneud.
  • Asesiadau o gleientiaid gyda chefnogaeth y Uwch Yrrwr a’r / neu’r Cydgysylltydd Trafnidiaeth.
  • Cefnogi swyddogaeth Uned Cyngor Sir Ceredigion yn unol â lefel y swydd.

Oherwydd natur y swydd, fe fydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar drwydded yrru ddilys D1 ac ymgymryd â gwiriadau perthnasol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae’n rhaid i ddeiliad y swydd fod dros 21 oed, meddu ar drwydded yrru ers dros 2 flynedd.

Ein cynnig i ti

Mae cyfraniad ein gweithwyr i iechyd, diogelwch a lles ein cleientiaid yn amhrisiadwy. Rydym ni felly am sicrhau bod ein Gyrwyr Trafnidiaeth yma yng Ngheredigion teimlo fod y gweithle mor foddhaol â phosibl.

Beth allwn ni ei gynnig?

Gallwn gynnig ystod o fanteision i chi fel gweithiwr am eich sgiliau a’ch ymrwymiad:

  • Cydbwysedd Gwaith – Bywyd: Trefniadau gweithio hyblyg er mwyn eich cynorthwyo i reoli gwaith ac ymrwymiadau personol.
  • Gwyliau Blynyddol: Lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol i gefnogi eich lles
  • Cynllun Pensiwn: Cynllun cyfraniadau pensiwn cyflogwr sy’n hael 
  • Buddion er budd y teulu: Buddion sy’n fwy na’r cyffredin i’ch cefnogi chi a’ch teulu
  • Arbedion o ran Ffordd y Fyw: Mynediad i arbedion a gostyngiadau ar dreuliau ffordd o fyw amrywiol.
  • Iechyd a Lles: Pecynnau iechyd a lles i hyrwyddo amgylchedd gwaith iach.

Am fwy o wybodaeth am fuddion ein gweithwyr, gwasgwch gwasgwch yma.

Dyma gyfle gwych i unigolyn gofalgar a brwdfrydig i ymuno a’n tîm cyfeillgar a gweithgar a’n helpu i wneud gwahaniaeth.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o wybodaeth ac i gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Paul Jackson: 01545 570881.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Priffyrdd ac Amgylcheddol

Rydym yn darparu gwasanaethau effeithlon, cynaliadwy a dwyieithog i bobl Ceredigion, gan hybu lles yn ein cymunedau, ymfalchïo mewn amgylchedd iach sy’n cael ei gadw’n dda, a hyder yn ein heconomi leol.

  • Gwasanaethau Trafnidiaeth: Trafnidiaeth gorfforaethol; Rheoli’r fflyd; Gwasanaethau parcio; Harbyrau.
  • Cynnal a Chadw Priffyrdd: Ymateb brys; Archwilio priffyrdd; Gwasanaeth y gaeaf.
  • Datblygu Priffyrdd: Cyswllt Cynllunio; Diogelwch ar y ffyrdd; Trafnidiaeth rhanbarthol; Goleuadau stryd; Gwaith stryd Rheoli traffig; CWIC/NMWTRA; Goruchwylio’r dyluniad; Rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd; Gwella priffyrdd.
  • Gwasanaethau Amgylchedd Leol: Casgliadau gwastraff, Safleoedd gwastraff cartref; Cynnal a chadw tiroedd; Glanhau strydoedd.
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy