Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Uwch Swyddog Seilwaith TGCh (Diogelwch)

Dyddiad Cau: 27/09/2026

Cyfeirnod: REQ106842

37 awr / Parhaol

40,444 - 42,123 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym yn edrych i recriwtio Uwch Swyddog Seilwaith TGCh (Diogelwch) i ymuno â’r tîm Seilwaith a Diogelwch TGCh. Mae hwn yn gyfle pwysig i gefnogi gallu’r Cyngor i gryfhau ei wydnwch seiber, ei lywodraethiant technegol a’i sicrwydd corfforaethol.

Ynglŷn â’r Rôl

Bydd y rôl yn darparu capasiti penodol i gefnogi Rhaglen Gwydnwch Seiber y Cyngor, gan fynd i’r afael â gweithgareddau a nodwyd drwy asesiadau CAF, argymhellion Archwilio Cymru a blaenoriaethau ehangach o ran risg gorfforaethol. Er bod y swydd yn parhau i fod yn rhan o’r swyddogaeth diogelwch technegol, bydd hefyd yn cyfrannu at weithgareddau sicrwydd a gwydnwch sy’n helpu’r Cyngor i ddeall, rheoli ac adrodd ar ei sefyllfa seiber.

Bydd y swydd yn cefnogi meysydd megis sicrwydd cadwyn gyflenwi a rheoli risg trydydd parti, gwella CAF a rheoli tystiolaeth, llywodraethu asedau a datblygu CMDB HALO, mapio gwasanaethau critigol a dibyniaethau seilwaith, blaenoriaethu adferiad, cynllunio gwydnwch ac adrodd ar sicrwydd seiber.

Bydd y rôl hefyd yn gweithio’n agos gyda CPMP, y Swyddog Diogelu Data, y SIRO, Caffael a Chydnerthedd Sifil er mwyn cefnogi dull mwy integredig o ymdrin â gwydnwch seiber, parhad busnes a sicrwydd sefydliadol. Bydd hyn yn helpu i greu tîm diogelwch mwy gwydn, gyda gwell rhannu gwybodaeth, cysgodi a threfniadau croesglawr rhwng swyddogion diogelwch.

Ynglŷn â’r Ymgeisydd

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad cryf mewn diogelwch TGCh, seilwaith neu rôl arweiniol dechnegol, ynghyd â dealltwriaeth dda o reoli risg, llywodraethu, rheoli asedau a gweithgareddau sicrwydd. Bydd y gallu i weithio gyda thimau technegol a rhanddeiliaid corfforaethol yn hanfodol, gan gynnwys cyfathrebu gwybodaeth dechnegol mewn ffordd glir a defnyddiol.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg. Bydd cefnogaeth lawn yn cael ei chynnig yn ystod oriau gwaith i ymgeiswyr llwyddiannus sydd angen cymorth i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg er mwyn cyrraedd y safon ofynnol.

Ein Cynnig i Chi

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i ymgymryd â meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd yn hyderus, yn ogystal â chefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi, gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth iechyd a lles i weithwyr, a chynllun pensiwn hael.

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar anghenion gwasanaeth, gallwch weithio o gartref neu o swyddfa.
  • Flexi-time: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Cyfweliadau

Bydd manylion y cyfweliadau yn cael eu cadarnhau.

Manylion Ychwanegol

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth bellach neu drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Jason Taylor ar 01970 633295 neu e-bost jason.taylor@ceredigion.llyw.cymru

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Cyswllt Cwsmeriaid

Ein nod yw cynnig cymorth a chyngor i drigolion Ceredigion drwy dîm Porth y Gymuned a’r Ganolfan Gyswllt. Rydym hefyd yn darparu cymorth corfforaethol drwy ein timau TGCh, y dderbynfa a thîm yr ystafell bost. Mae ein gwasanaeth yn gyfrifol am y swyddogaethau canlynol:

  • Cofrestru Sifil: Geni, marwolaethau a phriodasau.
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid Corfforaethol: Bathodyn glas; Canolfan gyswllt; Ystafell bost a sganio; Derbynfeydd
  • TGCh a Rheoli Gwybodaeth: Archifau a chofnodion modern; Cymorth TGCh; Seilwaith a diogelwch; Cefnogaeth prosiect a chymhwyso; Reprograffeg, Cymorth Technegol, Datblygu Meddalwedd.
  • Gwasanaethau Llyfrgell
Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy