Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 30/08/2026
Cyfeirnod: REQ106844
Achlysurol
26,403 - 27,694 *
Penmorfa, Aberaeron
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn chwilio am Swyddog Dilysu dros dro, achlysurol/wrth gefn i ymuno â’r Tîm Cymorth Gwasanaeth Corfforaethol, sy’n cynorthwyo Gwasanaethau Rheoli Datblygu. Mae’r Tîm Dilysu yn cyflawni swyddogaeth allweddol wrth ddilysu ceisiadau cynllunio a gyflwynir i’r Cyngor.
Rôl achlysurol/wrth gefn yw hon – bydd yr oriau gwaith yn ôl yr angen, fel y pennir gan y galw am y gwasanaeth.
Ynglŷn â’r Rôl:
Rôl allweddol y Swyddog Dilysu fydd rheoli’r broses o dderbyn, dilysu a chofrestru ceisiadau cynllunio, a cheisiadau am gyngor cyn-ymgeisio. Bydd yn ofynnol i’r deiliad swydd fewnbynnu, diweddaru a thynnu gwybodaeth o systemau TG; casglu data; cynnal cofnodion y gronfa ddata electronig a, lle bo’n briodol, gofnodion ar y wefan. Bydd gofyn iddynt hefyd ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol sy’n gysylltiedig ag amgylchedd swyddfa prysur, gan gynnwys goruchwylio cyfrifon e-bost; ymateb i alwadau ffôn; ymdrin â gohebiaeth sy’n dod i mewn ac yn mynd allan.
Ynglŷn â’r Ymgeisydd:
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant gyda NVQ lefel 4 neu uwch mewn Astudiaethau Busnes neu brofiad cyfatebol a enillwyd dros o leiaf 4 blynedd. Byddai’r cyfle yn gweddu i rywun sy’n drefnus, sydd â sylw da i fanylion, lefel uchel o lythrennedd cyfrifiadurol a gallu technegol, sgiliau cyfathrebu da ac agwedd frwdfrydig a chadarnhaol at waith. Byddai gwybodaeth am systemau TGCh fel Tascomi a QGIS yn fantais amlwg.
Oherwydd lefel y cyswllt ag aelodau’r cyhoedd, dros y ffôn a hefyd drwy e-bost a gohebiaeth ar bapur, mae’r angen i gyrraedd y lefelau Cymraeg dymunol yn hanfodol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Keith Dale (Arweinydd Tim – Cymorth Corfforaethol i Wasanaethau) keith.dale@ceredigion.gov.uk
Cynhelir cyfweliadau yn yr wythnos sy’n dechrau 07.09.2026
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth esmwyth ac effeithlon ar broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i Gynghorwyr; Cefnogaeth PA, gweinyddol a rheoli prosiect i bob maes gwasanaeth; hwyluso etholiadau; tim cyfathrebu; cyfieithu a swyddog polisi Iaith Gymraeg. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys