Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Prentis Gweinyddwr Systemau

Dyddiad Cau: 06/09/2026

Cyfeirnod: REQ106847

25 awr / Cyfnod Penodedig

25,583 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Ymunwch â’n tîm Systemau AD a helpu i gefnogi’r system sy’n sail i gyflogaeth a chyflog ein gweithlu. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau TG a systemau ymarferol, ynghyd â sgiliau adrodd ar ddata, wrth ennill cymhwyster Lefel 3 cydnabyddedig.

Fel Prentis Gweinyddwr Systemau, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol i gefnogi gweinyddu, cynnal a datblygu system AD a Chyflogres y Cyngor, gan helpu cydweithwyr ar draws y sefydliad wrth feithrin yr wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn gweinyddu systemau.

Y rôl

Byddwch yn cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys:

  • Cynnal a datblygu system AD a Chyflogres y Cyngor
  • Cynorthwyo gyda ffurfweddu’r system a mynediad defnyddwyr
  • Cefnogi cydweithwyr gydag ymholiadau system a datrys problemau
  • Profi diweddariadau a gwelliannau i’r system
  • Cynorthwyo gyda dilysu data ac adrodd
  • Cynorthwyo gyda datblygu canllawiau a deunyddiau cymorth i ddefnyddwyr
  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i gydweithwyr ar draws y Cyngor

    Y brentisiaeth

    Bydd eich prentisiaeth yn para 2 mlynedd ac, ar ôl ei chwblhau’n llwyddiannus, byddwch yn ennill Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Seilwaith Digidol. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddysgu yn y gweithle, dysgu ar-lein a gweithdai oddi ar y safle, a all gynnwys teithio achlysurol.

    Yr hyn rydym yn chwilio amdano

    Rydym yn chwilio am rywun sydd:

    • Yn mwynhau defnyddio technoleg ac offer digidol
    • Â sylw da i fanylion ac sy’n gallu gweithio’n gywir gyda data
    • Yn awyddus i ddysgu a datblygu sgiliau newydd
    • Â sgiliau cyfathrebu a threfnu da
    • Yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm
    • Yn ddibynadwy, yn broffesiynol ac yn canolbwyntio ar y cwsmer

    Pam ymuno â ni?

    Yn ogystal ag ennill cymhwyster gwerthfawr a phrofiad ymarferol yn y gweithle, byddwch yn elwa ar:

    • Oriau gwaith hyblyg drwy ein Cynllun Fflecsi
    • Cyfleoedd i weithio’n hybrid
    • Hawl hael i wyliau blynyddol
    • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
    • Mentora a chymorth penodol drwy gydol eich prentisiaeth
    • Cyfleoedd dysgu a datblygu parhaus
    • Mynediad at amrywiaeth o gynlluniau disgownt staff a mentrau iechyd a lles

    Gwybodaeth bwysig

    Sylwch fod cymhwysedd ar gyfer prentisiaeth yn amodol ar feini prawf y darparwr hyfforddiant. Efallai na fydd ymgeiswyr sydd eisoes â chymhwyster lefel uwch, megis HNC, HND neu radd mewn pwnc sy’n ymwneud â TG, yn gymwys i ymgymryd â’r brentisiaeth hon.

    Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd am ddechrau gyrfa mewn TG, gweinyddu systemau, data ac adrodd, gan wneud cyfraniad gwirioneddol at y gwasanaethau sy’n cefnogi ein gweithlu.

    Gwybodaeth Ychwanegol

    Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

    Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

    Ceir rhagor o fanylion am y brentisiaeth yma:
    Peiriannydd Seilwaith Digidol Lefel 3 – Cymhwyster | GCS

    Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Gwilym Morgan ar Gwilym.Morgan2@ceredigion.gov.uk

    Cynhelir cyfweliadau ar:15.09.2026

    Nodyn: Rydym yn cadw’r hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Pobl a Threfniadaeth

    Rydym yn cynnig cymorth i’r sefydliad er mwyn denu, datblygu a chadw gweithlu ystwyth sy’n perfformio’n dda, gan weithio mewn amgylchedd diogel, sy’n gallu darparu gwasanaethau o’r safon uchaf i ddinasyddion Ceredigion nawr ac yn y dyfodol. Ein prif swyddogaeth yw:

    • Cyngor a Gweinyddu Adnoddau Dynol: Absenoldeb; Arfarniadau; Cytundebau; Disgyblu; Cwyno; Gwerthuso Swyddi; Rheoli Newid; Recriwtio ac Ar-fyrddio.
    • Iechyd, Diogelwch a Lles: Cyngor; Cydymffurfio; Asesiadau risg.
    • Dysgu a Datblygu: E-ddysgu; Digwyddiadau; Panel cymwysterau; Hyfforddiant.
    • Ymgysylltu a Lles: Ceri +; Cyfathrebu Mewnol; Marchnata Recriwtio
    • Tâl a Budd-daliadau:  Cyflogres; Pensiynau; Taflenni amser.
    • Systemau: Datblygiad a System Ceri; Data ac Adrodd.
    Canolfan Rheidol
    Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
    Darllen mwy
    Aberystwyth
    Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
    Darllen mwy