Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 13/09/2026
Cyfeirnod: REQ106853
37 awr / Dros Dro
39,152 - 40,777 *
Penmorfa, Aberaeron
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn profiadol a brwdfrydig i ymuno â Gwasanaeth Rheoli Datblygu’r Cyngor.
Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am Swyddog Rheoli Datblygu cymwys a phrofiadol, ond rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr sy’n gweithio yn yr amgylchedd adeiledig, sydd â phrofiad / cymwysterau mewn pensaernïaeth, cadwraeth neu’r dreftadaeth adeiledig.
Mae’r swydd yn cynnig ystod o heriau proffesiynol amrywiol, ond hefyd y gallu i ddylanwadu ar ffurf cymunedau ar draws y Sir yn y dyfodol. Drwy fod yn rhan annatod o uchelgais y Cyngor i ddatblygu a gwella ansawdd bywyd a chyfleoedd i’r trigolion, cydnabyddir pwysigrwydd corfforaethol y gwasanaeth. Bydd disgwyl i chi fod yn greadigol, yn arloesol ac yn gallu dod o hyd i atebion.
O ddydd i ddydd byddwch chi’n:
Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn:
Mae’r swydd yn gofyn am rywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Sylwch y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd i’w benodi.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth TîmCeredigion
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Catrin Newbold (Rheolwr Gwasanaeth – Rheoli Datblygu) Rhif Ffon: (01545) 572131.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo. Ein prif swyddogaethau yw: