Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynghorydd y Ganolfan Gyswllt

Dyddiad Cau: 20/09/2026

Cyfeirnod: REQ106858

37 awr / Parhaol

27,274 - 28,608 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Os ydych chi’n cael eich ysgogi trwy ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf ac wedi ymrwymo i wella profiad y cwsmer yna hoffem glywed gennych.

Rydym yn chwilio am Cynghorydd y Ganolfan Gyswllt brwdfrydig i ymuno â’n tim Canolfan Gyswllt.

Fel Cynghorydd y Ganolfan Gyswllt byddwch:

  • delio â phob ymholiad ffôn mewn canolfan gyswllt gyfaint uchel,
  • darparu gwasanaeth gwybodaeth a chyngor o ansawdd uchel i gwsmeriaid yn unol â pholisi a strategaeth y Cyngor sy’n ymwneud â gofal cwsmeriaid,
  • bod yn gwrtais, yn gyfeillgar ac yn meddu ar sgiliau datrys problemau gwych.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig cyfle i weithio mewn sefydliad blaengar ac uchelgeisiol a leolir mewn ardal a gydnabyddir am ei thirluniau syfrdanol. Hefyd, yr ydyn yn cynnig nifer o  fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, buddion teulu gwell, arbedion ffordd o fyw, phecynnau iechyd a lles gweithwyr, a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma

Ymhellach i hyn, er mwyn helpu i sicrhau eich bod yn medru cydbwyso gwaith a bywyd yn gyfforddus bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd fynediad at budd dewisol o weithio hybrid, efo’r ddewis a ydynt am weithio o’r cartref neu yn eu lleoliad gwaith cytundebol (os bodlonir rhai amodau).

Yn ychwanegol at hyn, rydym yn ymrwymedig i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn cynnig cefnogaeth i’ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.   

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Lowri Owen: Lowri.Owen@ceredigion.gov.uk, Nicola Williams: Nicola.Williams2@ceredigion.gov.uk or Anna Gawthorpe Anna.Gawthorpe@ceredigion.gov.uk.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Cyswllt Cwsmeriaid

Ein nod yw cynnig cymorth a chyngor i drigolion Ceredigion drwy dîm Porth y Gymuned a’r Ganolfan Gyswllt. Rydym hefyd yn darparu cymorth corfforaethol drwy ein timau TGCh, y dderbynfa a thîm yr ystafell bost. Mae ein gwasanaeth yn gyfrifol am y swyddogaethau canlynol:

  • Cofrestru Sifil: Geni, marwolaethau a phriodasau.
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid Corfforaethol: Bathodyn glas; Canolfan gyswllt; Ystafell bost a sganio; Derbynfeydd
  • TGCh a Rheoli Gwybodaeth: Archifau a chofnodion modern; Cymorth TGCh; Seilwaith a diogelwch; Cefnogaeth prosiect a chymhwyso; Reprograffeg, Cymorth Technegol, Datblygu Meddalwedd.
  • Gwasanaethau Llyfrgell
Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy