Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 23/09/2026
Cyfeirnod: REQ106862
32.5 awr / Dros Dro
33,731 - 51,942 *
Aberystwyth
Mae’r canlynol yn hysbyseb ar gyfer swydd lle mae’r gallu i weithio a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Disgwylir i’r swydd gyfnod penodol hon ddechrau rhwng dechrau a chanol mis Ionawr 2027 i ddarparu cyflenwad yn ystod cyfnod absenoldeb mamolaeth.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Rhydypennau yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac ymroddgar fydd yn gyfrifol am gynnal a chodi safonau disgyblion. Mae Rhydypennau yn ysgol hapus a llwyddiannus gyda dros 200 o ddisgyblion ar y gofrestr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â gwybodaeth a dealltwriaeth gref o egwyddorion Cwricwlwm i Gymru, a’r gallu i gyfrannu tuag at arweinyddiaeth meysydd dysgu a phrofiad penodol o’r cwricwlwm.
Mae’r gallu i gyfathrebu trwy’r Gymraeg (sy’n cyfateb a Lefel 5 yn unol â’r fframwaith ALTE yn Gwrando / Siarad, Darllen ac Ysgrifennu) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, a byddai’r gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yn fanteisiol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cyd-weithio’n effeithiol â thîm profiadol ac ymroddedig.
Mae deiliad presennol y swydd yn addysgu yn nosbarth Blwyddyn 5.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Croesawn gyswllt blaenorol gan ymgeiswyr, a gallwch drefnu sgwrs anffurfiol trwy gysylltu â’r Pennaeth, Mr Peter Leggett dros e-bost ar p.leggett1@rhydypennau.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: