Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 – Cartref Gofal Preswyl Min y Môr

Dyddiad Cau: 05/10/2026

Cyfeirnod: REQ106879

30 awr / Parhaol

26,427 - 26,847 *

Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Ydych chi wedi ystyried gweithio ym maes Gofal Preswyl i Oedolion? Rydym am tyfu ein tîm!

Ydych chi’n mwynhau gofalu am eraill neu a ydych chi’n chwilio am her newydd? Ymunwch â’n tîm gweithgar, cyfeillgar a chefnogol yng Nghartref Gofal Preswyl Min y Môr i weld y gwahaniaeth gwirioneddol y gallwch ei wneud.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2(30 awr) i ymuno â Chartref Gofal Preswyl Min y Môr yn Aberaeron, ar sail barhaol. Nid yw profiad blaenorol o weithio mewn cartref gofal yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei darparu. Cyn belled â bod gennych garedigrwydd, amynedd, parch a gwytnwch – gallwn ddysgu’r gweddill i chi!

Am y rôl 

Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath yn y rôl amrywiol a gwerth chweil hon. Fel canllaw cyffredinol, gall eich dyletswyddau dyddiol gynnwys: 

  • darparu gofal cyflawn i gleientiaid yn unol â’r drefn ddyddiol fel yr amlinellir yn y cynlluniau gofal
  • darparu cymorth emosiynol a sicrwydd i gleientiaid, yn enwedig pan fydd angen iddynt addasu i newid/a/neu argyfwng teuluol
  • rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn, gan gynnwys cyffuriau rheoledig, yn unol â pholisi a gweithdrefn
  • hebrwng cleientiaid allan o’r sefydliad, e.e. teithiau hamdden
  • cwblhau cofnodion dyddiol
  • cynnal gwasanaeth glanhau, golchi dillad ac ystafell fwyta

    Ein cynnig i chi 

    Mae cyfraniad ein gweithwyr i iechyd, diogelwch a llesiant preswylwyr ein cartrefi gofal yn amhrisiadwy. Rydym felly am sicrhau bod ein Gweithwyr Gofal a Chymorth yn gweld gweithio i Geredigion yn brofiad gwerth chweil. 

    Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion gweithwyr, gan gynnwys: 

    • hyd at 34 diwrnod o wyliau blynyddol
    • mentrau iechyd a lles gan gynnwys cymorth am ddim o ran ffordd o fyw a chwnsela,
    • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
    • tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch
    • mynediad i gynllun gostyngiadau ac arbedion ffordd o fyw Vivup
    • cyfleoedd dysgu a datblygu i gefnogi dilyniant gyrfa 
    • cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun Beicio i’r Gwaith

    I gael rhagor o wybodaeth am ein buddion cyflogeion cliciwch yma

    Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn gofalgar a thosturiol ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. 

    Cyflwyno cais 

    Rydym wedi ei gwneud yn haws i chi wneud cais drwy symleiddio ein ffurflen gais. Mae cyflwyno cais nawr yn haws nag erioed! 

    Os bydd angen cymorth arnoch i gwblhau eich cais, mae croeso i chi gysylltu â 01970 633949 neu e-bostio adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk

    Gwybodaeth Ychwanegol 

    Mae’r rôl hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau fel rhan o wythnos waith arferol neu rota. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl i’r tâl canlynol: 

    • Dydd Sadwrn – Amser a chwarter
    • Dydd Sul – Amser a hanner

    Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

    Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

    Cysylltwch â ni 

    Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Matthew Parry ar matthew.parry@ceredigion.gov.uk

    Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.

    Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

    Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

    Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig

    • Tîm Derbyn a Gweithrediadau Integredig
    • Tîm Asesu Integredig
    • Tîm Dyletswydd Brys
    Gwasanaethau Targedig a Thymor Byr
    • Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol
    • Tîm Logisteg a Gweithrediadau’r Ganolfan Byw’n Annibynnol (CILC)
    • Gofal Integredig Targedig a Galluogi
    • Gofal a Galluogir gan Dechnoleg a Gwasanaethau Synhwyraidd
    • Therapi Galwedigaethol

    Gwasanaethau Uniongyrchol

    • Tîm Gwasanaethau Gofal Dyddiol
    • Timau Gofal Preswyl
    Aberaeron
    Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
    Darllen mwy