Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Taliadau

Dyddiad Cau: 02/10/2026

Cyfeirnod: REQ106895

Mewnol yn unig

37 awr / Parhaol

26,427 - 26,847 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Dim ond gweithwyr cyfredol all wneud cais am y swydd hon.

Rydym yn chwilio am Swyddog Taliadau i ymuno â’r Gwasanaeth prysur ‘Caffael a Chomisiynu’.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan amlwg ym mhroses bwysig ac amrywiol y Cyngor ynghylch taliadau, gan gynnwys

  • prosesu anfonebau cyflenwyr,
  • diweddaru cyfrifon credydwyr,
  • pob dyletswydd parthed prosesu taliadau BACS,
  • ymdrin ag ymholiadau gan gyflenwyr a chontractwyr allanol,
  • ac ymdrin ag ymholiadau gan Wasanaethau eraill ledled y Cyngor.

Gweler Disgrifiad y Swydd a Manyleb y Person am fanylion pellach am ofynion y swydd.

Ein Cynnig i Chi

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Gwybodaeth ychwanegol

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch â Ross Edwards: Ross.Edwards@ceredigion.gov.uk / 01970 633654.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Cyllid a Chaffael

Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol drwy fonitro arian yn ofalus ac yn gyfrifol, caffael corfforaethol effeithiol, talu’n brydlon ac yn gywir o ran asesiadau ariannol / credydwyr a chasglu dyledion / trethiant lleol yn brydlon.

Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy