Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 14/10/2026
Cyfeirnod: REQ106901
37 awr / Parhaol
44,253 - 46,579 *
Canolfan Rheidol, Aberystwyth
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Reolwr Cyllid Cynorthwyol ymuno â’n Tîm Cyfrifeg Gwasanaeth o fewn Cyllid a Chaffael. Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn medrus, brwdfrydig a llawn amser yn barhaol. Mae’r cyfle hwn wedi codi yn dilyn ymddeoliad deiliad blaenorol y swydd.
Cyfrifoldebau:
Byddwch yn goruchwylio ac yn cynorthwyo gyda rheoli’r tîm sy’n darparu cefnogaeth ariannol i amrywiol wasanaethau’r Cyngor, gan gynnwys Economi ac Adfywio, Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth, Perfformiad Polisi a Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Democrataidd, gan sicrhau gosod cyllideb effeithiol, monitro ariannol yn ystod y flwyddyn, a chau cyfrifon yn ogystal â rheoli ffrydiau cyllido allanol allweddol.
Bydd disgwyl i chi:
Ein Cynnig i Chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gwybodaeth ychwanegol
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am drafodaeth anffurfiol am y swyddi, cysylltwch a Matthew Lawlor (Rheolwr Cyllid) ar matthew.lawlor@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol drwy fonitro arian yn ofalus ac yn gyfrifol, caffael corfforaethol effeithiol, talu’n brydlon ac yn gywir o ran asesiadau ariannol / credydwyr a chasglu dyledion / trethiant lleol yn brydlon.