Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Comisiynu x 2

Dyddiad Cau: 15/10/2026

Cyfeirnod: REQ106906

37 awr / Parhaol

32,578 - 34,811 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym yn edrych i recriwtio dau Swyddog Comisiynu i ymuno â’n tîm. Mae un swydd yn barhaol, yn gweithio 37 awr yr wythnos, ac mae’r llall yn swydd dros dro am 37 awr yr wythnos i gyflenwi cyfnod mamolaeth. Nodwch yn glir ar eich ffurflen gais pa swydd yr hoffech gael eich ystyried ar ei chyfer.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dymuno gwneud cyfnod ar secondiad. Argymhellir eich bod yn cael caniatâd eich rheolwr llinell/cyflogwr cyn gwneud cais er mwyn sicrhau y gallwch ddychwelyd i’ch swydd sylweddol unwaith y bydd y cyfnod secondiad wedi dod i ben.

O ddydd i ddydd byddwch yn:

  • Darparu cyngor am gaffael a brocera er mwyn trefnu a chomisynu gwasanaethau gofal cymdeithasol gydol oes mewn modd amserol a chost-effeithiol, gan sicrhau bod y gofynion penodedig a’r anghenion a aseswyd yn cael eu diwallu.
  • Cyfrannu at y gwaith o gomisiynu a rheoli contractau gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth a chydweithio â’r timau gweithredol, y darparwyr gofal, ein cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd a’r rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael eu darparu a’u cyflenwi, eu bod yn sicrhau gwerth am arian.

Rydym am recriwtio unigolyn:

  • Gyda’r gwybodaeth am y sector Gofal Cymdeithasol.
  • Gyda’r gallu i weithio o dan bwysau.
  • Gyda’r sgiliau cyd-drafod.
  • Sydd ar gallu i gyfathrebu’n effeithiol mewn cyd-destun amlasiantaethol.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau iaith Gymraeg yn cael cynnig gwersi wedi’u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir.

Ein cynnig i chi

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma. 

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Gwybodaeth ychwanegol

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cyfweliadau

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yn rhithiol. Cynhelir cyfweliadau ar 22/10/2026 a/neu 23/10/2026.

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch naill Alun Davies ar 01545 572659 / Alun.Davies@ceredigion.gov.uk neu Becki Johnson ar 01545 574130 /  Rebecca.Johnson@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Cyllid a Chaffael

Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol drwy fonitro arian yn ofalus ac yn gyfrifol, caffael corfforaethol effeithiol, talu’n brydlon ac yn gywir o ran asesiadau ariannol / credydwyr a chasglu dyledion / trethiant lleol yn brydlon.

Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy