Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol – Gwasanaethau Asesu a Brysbennu Integredig

Dyddiad Cau: 21/10/2026

Cyfeirnod: REQ106914

14.8 awr / Parhaol

32,578 - 34,811 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym yn dymuno recriwtio Cymorthydd Gwaith Cymdeithasol brwdfrydig sy’n canolbwyntio ar blant i ymuno â thîm Porth Gofal, Tîm Integredig Derbyn, Brysbennu ac Asesu, i weithio gyda theuluoedd a’u plant. Gan weithio o fewn egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Gweithdrefnau Diogelu Cymru, bydd y rôl yn cyfrannu at nodi anghenion, risgiau ac atal, gan sicrhau bod plant a’u teuluoedd yn derbyn y cymorth cywir ar yr adeg gywir.

Bydd y rôl yn cynnwys yn bennaf gwblhau asesiadau cymesur yn unol ag atgyfeiriadau a phryderon diogelu sy’n ymwneud â phlant a theuluoedd. Bydd deiliad y swydd yn casglu ac yn cofnodi gwybodaeth berthnasol, yn darparu cyngor ac arweiniad, ac yn cynorthwyo i adnabod lefelau o angen, risg a bregusrwydd er mwyn cefnogi penderfyniadau gwybodus. Bydd yn gweithio o dan arweiniad y Rheolwr Tîm a’r Ymarferydd Uwch, gan gefnogi cydweithio amlasiantaethol effeithiol gydag addysg, iechyd, yr heddlu, tai a phartneriaid y trydydd sector.

Mae prif swyddogaethau Porth Gofal yn cynnwys:

  • Darparu un pwynt mynediad ar gyfer atgyfeiriadau gofal a chymorth.
  • Cynnal asesiadau cymesur o angen.
  • Adnabod cryfderau, anghenion, risgiau a deilliannau dymunol ar gyfer plant a theuluoedd.
  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.
  • Cyfeirio unigolion at wasanaethau ataliol, ymyrraeth gynnar a gwasanaethau arbenigol.
  • Cefnogi rhannu gwybodaeth amlasiantaethol a gweithio ar y cyd.
  • Datblygu pryderon diogelu drwy brosesau statudol priodol.
  • Hyrwyddo llesiant, atal, gwydnwch a chanlyniadau cadarnhaol yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae ymrwymiad i feddu ar sgiliau trefnu a chasglu gwybodaeth cadarn, y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith mewn amgylchedd prysur, a chynnal cofnodion cywir i gefnogi penderfyniadau gwybodus yn hanfodol. Yn ogystal, mae ymrwymiad i weithio’n gydweithredol fel rhan o dîm amlasiantaethol, gan ddarparu cyngor, arweiniad a chyfeirio at wasanaethau priodol, tra’n hyrwyddo lles, diogelwch a buddiannau gorau plant a phobl ifanc.

Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn sydd â:

  • HNC / Cymhwyster Nyrsio / NVQ Lefel 4 mewn Gofal / Diploma Cenedlaethol QCF Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5, K101 neu gymhwyster cyfatebol.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddiogelu plant a hyrwyddo eu lles, ynghyd â’r gallu i adnabod a dwysáu pryderon yn briodol.
  • Byddai profiad o weithio mewn Gwasanaethau Plant, Tîm Brysbennu, Asesu, Cymorth Cynnar neu Dîm Diogelu yn fantais.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Caryl Davies ar caryl.davies3@ceredigion.gov.uk neu 01545 572666

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig

  • Tîm Derbyn a Gweithrediadau Integredig
  • Tîm Asesu Integredig
  • Tîm Dyletswydd Brys
Gwasanaethau Targedig a Thymor Byr
  • Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol
  • Tîm Logisteg a Gweithrediadau’r Ganolfan Byw’n Annibynnol (CILC)
  • Gofal Integredig Targedig a Galluogi
  • Gofal a Galluogir gan Dechnoleg a Gwasanaethau Synhwyraidd
  • Therapi Galwedigaethol

Gwasanaethau Uniongyrchol

  • Tîm Gwasanaethau Gofal Dyddiol
  • Timau Gofal Preswyl
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy