Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 25/10/2026
Cyfeirnod: REQ106916
37 awr / Parhaol
32,578 - 34,811 *
Penmorfa, Aberaeron
Rydym yn awyddus i recriwtio dau Gynorthwyydd Personol i’r Grŵp Arweiniol. Mae un swydd yn swydd barhaol sy’n gweithio 37 awr yr wythnos, ac mae’r llall yn swydd dros dro 37 awr yr wythnos i gyflenwi cyfnod mamolaeth. Nodwch yn glir ar eich ffurflen gais pa swydd yr hoffech gael eich ystyried ar ei chyfer.
Dyma gyfle i fod yn rhan o dîm prysur, sydd yn cefnogi Grŵp Arweiniol y Cyngor.
Byddwch yn darparu cymorth uniongyrchol i pedwar Swyddog Arweiniol Corfforaethol, gan eu cynorthwyo gyda rheoli dyddiaduron, cymryd cofnodion a chymorth cyffredinol.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sonia Davies, Uwch Gynorthwyydd Personol i’r Prif Weithredwr (Sonia.Davies@ceredigion.gov.uk)
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth esmwyth ac effeithlon ar broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i Gynghorwyr; Cefnogaeth PA, gweinyddol a rheoli prosiect i bob maes gwasanaeth; hwyluso etholiadau; tim cyfathrebu; cyfieithu a swyddog polisi Iaith Gymraeg. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys