Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Athro/Athrawes – Ysgol Gynradd Llannon

Dyddiad Cau: 16/10/2026

Cyfeirnod: REQ106926

13 awr / Parhaol

33,731 - 51,942 *

Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Llannon yn falch o gynnig cyfle cyffrous i athro/athrawes ymuno â’n tîm fel rhan o drefniant rhannu swydd parhaol, gan ddechrau ar 1 Ionawr 2027.

Mae Ysgol Gymunedol Llannon yn ysgol hapus, gynhwysol a gofalgar, gyda 43 o ddisgyblion. Rydym yn cynnig amgylchedd clos a chefnogol lle mae perthynas dda rhwng staff, disgyblion a’u teuluoedd wrth wraidd ein gwaith. Mae hyn yn rhoi cyfle gwych i’r sawl sy’n ymuno â ni ddod i adnabod ein disgyblion yn dda, chwarae rhan ym mywyd yr ysgol a gweld effaith uniongyrchol eu gwaith ar blant unigol.

Bydd y rôl yn cynnig cyfle i weithio gyda dosbarth Cyfnod Allweddol 2 cymysg o 26 o ddisgyblion, o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6, gan ddatblygu profiadau dysgu cyfoethog ac ysgogol sy’n cefnogi pob plentyn i wneud cynnydd a mwynhau eu dysgu.

Mae’r rôl hefyd yn cynnig cyfle i gyfrannu at ddatblygiad meysydd dysgu penodol, rhannu syniadau a phrofiadau gyda thîm profiadol ac ymroddedig, a chwarae rhan mewn datblygu ein cwricwlwm a’n bywyd ysgol. Mae gennym dîm sy’n gwerthfawrogi cydweithio, cefnogaeth a’r cyfraniad unigol y mae pob aelod o staff yn ei wneud.

Gan weithio dau ddiwrnod yr wythnos yn ein dosbarth Cyfnod Allweddol 2, bydd cyfle i ddatblygu perthynas gadarnhaol â’n disgyblion a gwneud cyfraniad gwerthfawr at eu dysgu a’u datblygiad.

Mae’r gallu i weithio a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, sy’n gyfwerth â Lefel 5 yn unol â fframwaith ALTE mewn Gwrando/Siarad, Darllen ac Ysgrifennu. Byddai brwdfrydedd dros gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol hefyd yn cael ei groesawu.

Os hoffech fod yn rhan o ysgol fach, gynnes a chroesawgar lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiadau a datblygiad ein disgyblion, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

Rydym yn croesawu cysylltiad ymlaen llaw gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y cyfle hwn, ac yn hapus i drefnu sgwrs anffurfiol gyda’r Pennaeth, Mrs Natalie Davies ar prif@llannon.ceredigion.sch.uk er mwyn i chi gael gwybod mwy am y rôl, ein hysgol a’r hyn sydd gennym i’w gynnig.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol 
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy