Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Gwasanaethau Parcio x 2

Dyddiad Cau: 11/11/2026

Cyfeirnod: REQ106957

37 awr / Parhaol

27,274 - 28,608 *

Depo Glanyrafon, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rôl yn yr awyr agored sy’n helpu i reoli parcio a diogelu ffyrdd a chymunedau lleol ledled Ceredigion

Ydych chi’n chwilio am rôl amrywiol lle gallwch ymwneud â’r cyhoedd a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau lleol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phroffesiynol i ymuno â’r Tîm Gwasanaethau Parcio fel Swyddog Gwasanaethau Parcio.  Dyma gyfle cyffrous i gefnogi diogelwch ar y ffyrdd, gwella mynediad i ganol trefi a chyrchfannau twristaidd, a helpu traffig i symud yn rhwydd ar draws y sir.

Mae’r rôl yn amrywiol a byddwch yn gweithio ar draws amrywiaeth o leoliadau ledled Ceredigion. Byddwch yn helpu i sicrhau bod rheoliadau parcio yn cael eu dilyn yn deg ac yn gyson tra’n darparu presenoldeb gweladwy a chadarnhaol yn ein cymunedau.

Ynghylch y rôl

Fel Swyddog Gwasanaethau Parcio, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Bod ar batrôl gan gadw llygad ar barcio ar y stryd ac oddi ar y stryd ledled Ceredigion.
  • Helpu i gynnal ffyrdd, strydoedd a meysydd parcio diogel, hygyrch sy’n cael eu rheoli’n dda.
  • Cefnogi’r gwaith o redeg meysydd parcio ac offer parcio’r Cyngor.
  • Nodi a riportio materion sy’n effeithio ar gyfleusterau parcio a rheolaeth traffig.
  • Rhoi cyngor, arweiniad a chymorth i drigolion, busnesau ac ymwelwyr.
  • Monitro cydymffurfiaeth â rheolau parcio a rhoi Hysbysiadau Talu Cosb.
  • Bod yn llysgennad proffesiynol ar ran Cyngor Sir Ceredigion.

Mae hon yn rôl i rywun sy’n mwynhau gweithio yn yr awyr agored, sy’n hyderus yn delio â phobl o bob cefndir, ac sy’n bwyllog, yn deg ac yn broffesiynol wrth ymdrin â sefyllfaoedd heriol.

Yr hyn rydyn ni’n chwilio amdano

Hoffem glywed gennych os ydych:

  • Â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Yn frwdfrydig, yn ddibynadwy ac yn gallu rheoli eich llwyth gwaith yn effeithiol wrth weithio fel rhan o dîm cefnogol.
  • Yn graff, yn drefnus ac yn rhoi sylw i fanylion.
  • Â phrofiad o weithio gyda’r cyhoedd mewn amgylchedd sy’n ymdrin â chwsmeriaid.
  • Yn meddu ar grebwyll proffesiynol, yn medru gwneud penderfyniadau cytbwys a gweithredu rheolau yn deg ac yn gyson.
  • Yn gyfforddus yn defnyddio technoleg a dyfeisiau llaw.
  • Yn meddu ar drwydded yrru lawn ar gyfer car â lifer gêrs yn y DU.
  • Mwynhau gweithio tu allan ym mhob tywydd.
  • Medru siarad Cymraeg neu’n barod i weithio tuag at y safonau ieithyddol gofynnol ar gyfer y swydd, fel y nodir ym Manyleb y Person.

Mae profiad blaenorol o orfodi rheolau parcio yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol. Rydym yn ymrwymo i ddatblygu gweithwyr a byddwn yn darparu hyfforddiant a chymorth i’ch helpu i lwyddo yn y rôl.

Hyfforddiant a datblygu

Byddwn yn darparu:

  • Sesiynau sefydlu cynhwysfawr a hyfforddiant yn y swydd.
  • Cymorth i ennill cymhwyster Lefel 2 y Ddinas a’r Gildiau / City & Guilds ar gyfer Swyddogion Gorfodi Parcio, os nad ydych yn meddu arno eisoes.
  • Hyfforddiant proffesiynol parhaus.

Patrwm Gwaith

Mae hon yn swydd barhaol, llawn-amser lle bydd gofyn gweithio 37 awr yr wythnos. Bydd gofyn i chi weithio 5 diwrnod allan o 7, gan gynnwys rhai penwythnosau a gwyliau banc ar sail rota. Bydd yr oriau shifft arferol rhwng 7:30am a 7:00pm.

Gweithio ar y penwythnos

Gan fod y rôl hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau ar sail rota, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl i’r tâl canlynol am weithio ar ddydd Sadwrn a dydd Sul:

  • Dydd Sadwrn – amser a chwarter;
  • Dydd Sul – amser a hanner.

Gweithio ar wyliau banc

Gan fod y rôl hon yn cynnwys gweithio ar wyliau banc ar sail rota, mae gan yr ymgeisydd llwyddiannus dewis o dderbyn amser dwbl neu amser sengl gyda diwrnod i ffwrdd, yn gyfnewid am weithio ar ŵyl banc.

Pam ymuno â ni?

Mae gweithio i Gyngor Sir Ceredigion yn cynnig cyfle i:

  • Wneud cyfraniad cadarnhaol i gymunedau lleol.
  • Cyflawni rôl amrywiol, actif lle byddwch yn gweithio yn annibynnol a hefyd fel rhan o dîm profiadol a chefnogol.
  • Datblygu sgiliau gwerthfawr a gwneud hyfforddiant proffesiynol.
  • Elwa ar delerau ac amodau cyflogaeth Llywodraeth Leol gan gynnwys lwfans cystadleuol o ran gwyliau blynyddol, mynediad i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac amrywiaeth o fuddion eraill i weithwyr. Mae rhagor o wybodaeth am ein buddion eang i’r gweithwyr i’w gweld yma.

Gwybodaeth ychwanegol

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person 

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS Safonol.

Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r rôl, cysylltwch â Gareth Davies, Arweinydd Gwaith y Gwasanaethau Parcio drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.

Ymunwch â ni er mwyn cadw Ceredigion yn ddiogel, yn hwylus ac ar ei hynt.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Priffyrdd ac Amgylcheddol

Rydym yn darparu gwasanaethau effeithlon, cynaliadwy a dwyieithog i bobl Ceredigion, gan hybu lles yn ein cymunedau, ymfalchïo mewn amgylchedd iach sy’n cael ei gadw’n dda, a hyder yn ein heconomi leol.

  • Gwasanaethau Trafnidiaeth: Trafnidiaeth gorfforaethol; Rheoli’r fflyd; Gwasanaethau parcio; Harbyrau.
  • Cynnal a Chadw Priffyrdd: Ymateb brys; Archwilio priffyrdd; Gwasanaeth y gaeaf.
  • Datblygu Priffyrdd: Cyswllt Cynllunio; Diogelwch ar y ffyrdd; Trafnidiaeth rhanbarthol; Goleuadau stryd; Gwaith stryd Rheoli traffig; CWIC/NMWTRA; Goruchwylio’r dyluniad; Rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd; Gwella priffyrdd.
  • Gwasanaethau Amgylchedd Leol: Casgliadau gwastraff, Safleoedd gwastraff cartref; Cynnal a chadw tiroedd; Glanhau strydoedd.
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy