Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Hyfforddi – Gofal Cymdeithasol

Dyddiad Cau: 02/12/2026

Cyfeirnod: REQ106977

37 awr / Parhaol

32,578 - 34,811 *

Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Ymunwch â’n Tîm Dysgu a Datblygu prysur a helpwch i sicrhau bod gan ein gweithlu ym maes gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau rhagorol i bobl Ceredigion.

Fel Gweithiwr Cymdeithasol cymwysedig a chofrestredig, byddwch yn defnyddio eich profiad i ddatblygu a darparu hyfforddiant, cefnogi ein Cynllun ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol dan Hyfforddiant a chydweithio â phartneriaid i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu o ansawdd uchel.

Mae’r rôl hon hefyd yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol eich hunan. Os nad oes gennych y cymwysterau perthnasol eisoes, cewch gymorth i ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Addysg Oedolion a Dyfarniad Addysgwr Ymarfer Gwaith Cymdeithasol Lefel 7 (ôl-raddedig) o fewn dwy flynedd i’ch penodiad.

Rydym yn chwilio am gyfathrebwr brwdfrydig, hyblyg a hyderus sydd ag angerdd dros ddysgu a helpu eraill i ddatblygu.

Ein cynnig i chi: 
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni. 

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fudd-daliadau i gyflogeion, gan gynnwys gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa. Oherwydd natur y rôl, bydd angen i chi deithio o fewn Ceredigion yn rheolaidd.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol
Lleoliad Gwaith Cytundebol: Penmorfa, Aberaeron
Oriau Wythnosol: 37 awr yr wythnos
Patrwm Gwaith Wythnosol: 8.45am – 5pm Mon-Fri
Categori arddull gweithio: Hybrid
Cynllun oriau hyblyg: Oes
Nifer yr wythnosau gwaith y flwyddyn: 52
Oriau Anghymdeithasol: Ddim yn berthnasol
Math o Gontract: Parhaol
Dyddiad dechrau disgwyliedig: 01/02/2027
Statws cyfyngiad gwleidyddol: Ddim yn berthnasol

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cynhelir cyfweliadau yn wythnos yn dechrau 14.12.2026.

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Vikki Foale – Victoria.Foale@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Pobl a Threfniadaeth

Rydym yn cynnig cymorth i’r sefydliad er mwyn denu, datblygu a chadw gweithlu ystwyth sy’n perfformio’n dda, gan weithio mewn amgylchedd diogel, sy’n gallu darparu gwasanaethau o’r safon uchaf i ddinasyddion Ceredigion nawr ac yn y dyfodol. Ein prif swyddogaeth yw:

  • Cyngor a Gweinyddu Adnoddau Dynol: Absenoldeb; Arfarniadau; Cytundebau; Disgyblu; Cwyno; Gwerthuso Swyddi; Rheoli Newid; Recriwtio ac Ar-fyrddio.
  • Iechyd, Diogelwch a Lles: Cyngor; Cydymffurfio; Asesiadau risg.
  • Dysgu a Datblygu: E-ddysgu; Digwyddiadau; Panel cymwysterau; Hyfforddiant.
  • Ymgysylltu a Lles: Ceri +; Cyfathrebu Mewnol; Marchnata Recriwtio
  • Tâl a Budd-daliadau:  Cyflogres; Pensiynau; Taflenni amser.
  • Systemau: Datblygiad a System Ceri; Data ac Adrodd.
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy