Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.  Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.

Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy’n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i’r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.

Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae’r timau wedi’u strwythuro ynddo yma.

Braslun o’r Tîm Gwasanaeth Gweithredwyr a Darparwyr

Tîm Gwasanaethau Maethu

Fel gwasanaeth maethu awdurdod lleol, rydym yn darparu gwasanaeth i blant sy’n derbyn gofal ac sy’n cael eu lleoli gyda gofalwyr maeth sydd wedi’u cymeradwyo gan Geredigion. Rydym yn rhan o fenter Maethu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ac yn cyfrannu at waith y Fframwaith Maethu Cenedlaethol.

Mae’r Gwasanaeth Maethu yn cynnig gwasanaeth i blant Ceredigion. Hefyd rydym yn cynnig cymorth i ofalwyr a phlant yn enwedig perthnasau/ffrindiau a gofalwyr yn y teulu sy’n byw y tu fas i Geredigion ond sy’n cydweithio ag awdurdod lleol Ceredigion.

Rydym hefyd yn darparu:

  • Lleoliadau Unigol a Lleoliadau i Frodyr a Chwiorydd
  • Pontio Lleoliadau: Gofalwyr maeth sy’n gallu paratoi plant i’w mabwysiadu neu ar gyfer gofal maeth hirdymor / parhaol
  • Lleoliadau Brys
  • Lleoliadau Tymor Byr a Hirdymor
  • Lleoliadau seibiant
  • Gwyliau Byr i blant ag anableddau
  • Lleoliadau i rieni a phlant
  • Gofal Dydd
  • Lleoliadau ‘Pan Fydda i’n Barod’

Gwasanaethau eraill:

  • Hysbysebu a recriwtio darpar ofalwyr maeth
  • Cynnal asesiadau o ddarpar ofalwyr
  • Ymgynghori â gweithwyr proffesiynol eraill, gofalwyr maeth a theuluoedd o ran sicrhau lleoliadau priodol i blant a pharu plant â gofalwyr sy’n gallu diwallu eu hanghenion
  • Cefnogi a goruchwylio gofalwyr maeth yn eu gwaith gyda phlant, teuluoedd y plant, gweithwyr cymdeithasol yr adran a gweithwyr proffesiynol eraill
  • Ymwneud â gweithwyr proffesiynol eraill a chyfarfodydd i sicrhau bod gofalwyr maeth yn cael cefnogaeth wrth gynnal cynllun gofal unigol plentyn
  • Cwblhau adolygiadau blynyddol o ofalwyr maeth
  • Darparu hyfforddiant ‘sgiliau i faethu’ i ddarpar ofalwyr, gyda chymorth gofalwyr maeth profiadol a’r rhai sy’n gadael gofal

Strwythur y Tîm

  • Rhaid i bob aelod o staff feddu ar o leiaf tair blynedd o brofiad fel Gweithiwr Cymdeithasol
  • Panel Maethu Annibynnol gydag amrywiaeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn seiliedig ar ofynion y rheoliadau.

Gwasanaethau Dydd

Fel Awdurdod Lleol rydym yn cynnig cyfleoedd dydd i unigolion sy’n byw gydag Anabledd Dysgu ynghyd ag Oedolion Hŷn sydd ag anghenion asesedig.

Yn draddodiadol roedd y rhain wedi’u lleoli yn y canolfannau canlynol:

  • Canolfan Steffan (Anabledd Dysgu)
  • Canolfan Padarn (Anabledd Dysgu)
  • Canolfan Meugan (Anabledd Dysgu ac Oedolion Hŷn)
  • Canolfan Ddydd Aberystwyth (Oedolion Hŷn)
  • Hafan Deg (Oedolion Hŷn)
  • Bryntirion (Oedolion Hŷn)

Mae’r ddarpariaeth wedi newid ychydig dros gyfnod y pandemig gyda dim ond gwasanaethau Anabledd Dysgu yn cael eu darparu ar hyn o bryd yn rhithiol, mewn canolfannau ehangach ac yn y gymuned. Rydym wrthi’n defnyddio’r canolfannau drachefn ond mae hyn bellach yn wahanol iawn i’r ddarpariaeth cyn y pandemig.

Elfen ychwanegol o’r gwasanaeth yw’r rhaglen bontio a Chamu ‘Mlaen. Mae hyn yn canolbwyntio ar ddarparu ar sail canlyniadau i blant 19+ oed ar y cyd ag Addysg, Cymorth Estynedig, Coleg Ceredigion, y Bwrdd Iechyd a Gofalwyr Cymru. Yn ganolog i’r ddarpariaeth hon y mae’r pwyslais ar gyflogadwyedd, sgiliau bywyd ac ati.

  • Fframwaith cynefino Cymru Gyfan
  • QCF Lefel 2,3,4 a 5 (Diploma) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol penodol (Oedolion/ Plant a Phobl Ifanc)
  • Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol
  • Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol
  • Hyfforddiant Iaith a Lleferydd
  • Cyfathrebu Cyfan
  • Iaith Arwyddion BSL
  • Deilydd Pasbort Cymru Gyfan – Codi a Chario
  • Rhoi meddyginiaeth
  • Anabledd Dysgu Dwys a Lluosog
  • Amrywiaeth o hyfforddiant penodol sy’n ymwneud ag anghenion y defnyddwyr gwasanaethau a’u lleoliadau.

Gofal Preswyl

Fel Awdurdod Lleol mae gennym ddarpariaeth gofal preswyl sy’n cynnwys y canlynol:

Gofal Preswyl i Oedolion

  • Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg, Llanbed
  • Cartref Gofal Preswyl yr Hafod, Aberteifi
  • Cartref Gofal Preswyl Bryntirion, Tregaron
  • Cartref Gofal Preswyl Tregerddan, Bow Street
  • Cartref Gofal Preswyl Min y Môr, Aberaeron.

Mae’r ddarpariaeth hon yn darparu gofal preswyl cofrestredig a chymorth i oedolion dros ddeunaw oed. Rydym yn darparu lleoliadau tymor byr, dros dro a pharhaol a gallwn gefnogi unigolion sy’n byw gydag ystod o anghenion gofal, gan gynnwys dementia (diffyg cerdded, ar sail asesu), anableddau dysgu ac iechyd meddwl. Mae’r ddarpariaeth hon yn ddarpariaeth drws agored, fodd bynnag mae Hafan Deg wrthi’n datblygu uned ddiogel o bedair ystafell wely yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n byw gyda dementia.

Rydym yn cynnig prentisiaethau blynyddol.

Llety Diogel i Blant

Ar hyn o bryd rydym wrthi’n datblygu llety i hyd at dri phlentyn rhwng tair a deunaw oed yn Felinfach. Bydd y llety wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Ein nod yw agor y cyfleuster hwn ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2022.

Gofynion Penodol

  • Fframwaith cynefino Cymru Gyfan
  • QCF Lefel 2,3,4 a 5 (Diploma) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol penodol (Oedolion/ Plant a Phobl Ifanc)
  • Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru – Plant yn gyfredol, Oedolion erbyn Hydref 2022
  • Deilydd Pasbort Cymru Gyfan – Codi a Chario
  • Rhoi meddyginiaeth
  • Amrywiaeth o hyfforddiant penodol sy’n ymwneud ag anghenion y defnyddwyr gwasanaethau a’u lleoliadau.