Model Gydol Oes a Llesiant

Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.  Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.

Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy’n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i’r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.

Ar ôl gwrando ar ein trigolion, gwyddom fod darparu cymorth yn gynnar yn atal yr angen am wasanaethau mwy arbenigol ac yn osgoi argyfwng. Mae pobl am gael mynediad i’r gwasanaeth iawn ar yr adeg iawn a chael dewis a rheolaeth lle bo’n bosib, boed ar gyfer eu hunain, y teulu, gofalwyr neu’r gymuned.

Mae ein model gwasanaeth gydol oes yn cynnwys pedwar maes sy’n ymwneud â lles, cymorth a gofal:

Clic

Gwasanaethau cymorth ar-lein a thros y ffôn sy’n cynnig mynediad at wybodaeth a chymorth asesu.

Porth Cymorth Cynnar

Ein tîm ar gyfer cymorth cynnar gan gynnig mynediad gydol oes i wasanaethau lles cyffredinol a phenodol.

Mae Porth Cymorth Cynnar yn darparu cymorth, gwybodaeth, cyngor ac ymyrraeth gynnar a phenodol a hynny drwy ddull gydol oes ac integredig.

Nod y Gwasanaeth yw gwella elfennau o les personol, cymdeithasol, addysgol, corfforol, meddyliol ac emosiynol unigolyn a hynny drwy hyrwyddo gwytnwch, gallu ac annibyniaeth yr unigolyn a’r teulu.

Mae’r Gwasanaeth yn darparu cyngor a chymorth hwylus a phenodol. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer gweithgarwch corfforol yng Ngheredigion gan gryfhau a chynyddu sgiliau a gwybodaeth unigolion a hynny drwy gyfleoedd i wneud profiad gwaith a gwirfoddoli.

Porth Gofal

Ein porth i ofal gan gynnig cyfleusterau asesu gydol oes a chymesur ar y cyd â gwasanaethau gofal a chymorth penodol a byr-dymor.

Bydd Porth Gofal, drwy dîm integredig Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu, yn gweithredu fel porth ar gyfer pob ymholiad gofal a ddaw o Clic, sef Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor.

Os oes pryderon diogelu yn amlwg bydd y rhain yn cael eu neilltuo i Borth Cynnal. Yn ogystal, mae’r Gwasanaeth hefyd yn rhoi cymorth gydol oes ar ffurf gwasanaethau gofal wedi’u rheoleiddio, taliadau uniongyrchol, offer gofal cymunedol, maethu, gofal dydd, gofal preswyl a gwasanaethau tai.

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys y timau canlynol:

  • Gwasanaethau Integredig Brysbennu ac Asesu: Tîm Derbyn a Gweithrediadau Integredig; Tîm Asesu Integredig; Tîm Brysbennu Integredig, gan gynnwys Therapi Galwedigaethol; Tîm Dyletswydd Brys
  • Gwasanaethau wedi’u Targedu a Thymor Byr: Tîm Taliadau Uniongyrchol; Tîm Logisteg a Gweithrediadau CILC; Tîm Gwasanaeth Gofal a Galluogi wedi’i Dargedu
  • Gwasanaethau Uniongyrchol: Tîm Gwasanaethau Maethu; Tîm Gwasanaethau Gofal Dydd; a Thimau Gofal Preswyl
  • Gwasanaethau Tai: Y Sector Rhentu Preifat a’r Tîm Tai Fforddiadwy; Opsiynau Tai a’r Tîm Cefnogi  

Porth Cynnal

Ein tîm ar gyfer cymorth mwy hirdymor gan gynnig gwasanaethau gofal dwys ac arbenigol, gydol oes, a gwasanaethau cymorth i unigolion a theuluoedd ag anghenion cymhleth y model. 

Mae Porth Cynnal yn darparu gwasanaethau asesu a gofalu dwys ac arbenigol, gydol oes, i’r rhai sydd angen gofal a chymorth hirdymor neu gymhleth. Mae’n cynnwys gwiriadau sicrhau ansawdd ac ymyriadau statudol. 

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys y timau canlynol:

  • Gofal wedi’i Gynllunio: Timau Gofal a Chymorth i Oedolion a Phlant a Thîm Ymyriadau Statudol
  • Cymorth Estynedig: Tîm Anabledd Oedolion a Phlant a Thîm Cymorth Arbenigol Galluedd Meddyliol
  • Camddefnyddio Sylweddau: Tîm Camddefnyddio Sylweddau, Tîm Statudol Cyfiawnder Ieuenctid a Thîm y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd/Ar Ffiniau Gofal
  • Lles Meddyliol: Tîm Iechyd Meddwl a Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy, Tîm Cwnsela Ysgolion  
  • Diogelu a Gwella Ansawdd:  Tîm Diogelu Oedolion a Phlant, Tîm Adolygu Annibynnol a Sicrhau Ansawdd

Mae dull Arwyddion Diogelwch yn sail i’r holl waith o ddarparu gwasanaethau ledled y model.  Mae’n rhoi pwyslais ar feithrin cryfderau unigolion, teuluoedd a chymunedau, ac eglurder wrth nodi risgiau a niwed, gan asesu’r hyn sy’n bwysig i’r unigolyn er mwyn nodi amcanion clir o ran diogelu a lles.

Tîm Cymorth ac Atal

Porth Cymorth Cynnar

Tîm Ymyrraeth Gynnar

Porth Cymorth Cynna

Tîm Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Porth Cymorth Cynnar

Tîm y Canolfannau Lles

Porth Cymorth Cynnar

Uned Cyfeirio Disgyblion Ceredigion

Porth Cymorth Cynnar

Tîm Brysbennu Integredig ac Asesu

Porth Gofal

Gwasanaeth Gweithredwyr a Darparwyr

Porth Gofal

Gwasanaethau wedi’u Targedu a Thymor Byr

Porth Gofal

Gofal wedi’i Gynllunio – Plant ac Oedolion

Porth Cynnal

Tîm Diogelu a Gwella Ansawdd

Porth Cynnal

Tîm Camddefnyddio Sylweddau

Porth Cynnal

Tîm Cymorth Estynedig

Porth Cynnal

Tîm Lles Meddyliol

Porth Cynnal