Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.  Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.

Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy’n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i’r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.

Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae’r timau wedi’u strwythuro ynddo yma.

Braslun o’r Tîm Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Hyfforddiant Ceredigion

Mae Hyfforddiant Ceredigion yn cynnig ystod o gyrsiau galwedigaethol sy’n paratoi pobl ar gyfer y gweithle a hynny drwy ddarparu hyfforddiant sgiliau yn y pynciau canlynol:

  1. Gwaith Gof a Weldio
  2. Gweinyddu Busnes
  3. Gofal
  4. Systemau Trydanol
  5. Trin gwallt
  6. Plymio
  7. Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau
  8. Gwaith Coed

Twf Swyddi Cymru +

Ein nod ar gyfer Twf Swyddi Cymru + yw cefnogi pobl ifanc 16-18 oed i gael gwaith neu symud ymlaen i ragor o addysg a chynyddu eu hyder a’u cymhelliant drwy wella eu sgiliau a rhoi profiad gwaith gwerthfawr iddynt.

Nod yr Elfen Ymgysylltu yw datblygu sgiliau cyflogadwyedd ein dysgwyr a’u helpu i fod yn unigolion iach a hyderus, yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas, gan gymryd cyfrifoldeb am eu lles yn eu bywyd a’u gwaith.

Bydd dysgwyr yn canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd gan gynnwys ysgrifennu CV, chwilio am swyddi, sgiliau cyfweliad, ac ymddygiad ac agweddau ar gyfer y gweithle. Byddant yn gweithio ar wella eu sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol.

Mae’r Elfen Cynnydd yn cynnig profiad gwaith a chymwysterau galwedigaethol penodol ar Lefel 1 ar draws ystod o sectorau a fydd yn paratoi ein dysgwyr ar gyfer byd gwaith yn eu diwydiant dewisol. Mae’r cymwysterau hyn yn cynnwys sgiliau Prentisiaeth lefel uwch i baratoi’r dysgwyr ar gyfer mynd ymlaen o bosib i swydd Prentis. Bydd dysgwyr yn gweithio ar eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol ac yn cael y cyfle i ennill cymwysterau Sgiliau Hanfodol a gydnabyddir yn genedlaethol.

Prentisiaethau (Lefelau 2 a 3) – rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ar gyfer prentisiaethau galwedigaethol i’r rheiny mewn gwaith sy’n ceisio ennill cymhwyster mewn sgiliau galwedigaethol. 

Cwricwlwm Amgen

Nod y Cwricwlwm Amgen yw sicrhau bod dysgwyr bregus yn cael mynediad at gwricwlwm amgen sydd wedi ei deilwra i ddiwallu eu hanghenion drwy wahanol  gyrsiau, gan roi’r cyfle gorau iddynt gyflawni a chyrraedd eu llawn botensial.  Ein nod yw datblygu sgiliau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol y disgyblion bregus a gwella eu cynnydd a’u presenoldeb.

Ar hyn o bryd mae gennym amrywiaeth o ddarparwyr mewnol ac allanol sy’n cyflwyno cymwysterau lefel 1 a lefel 2 achrededig ar gyfer ein disgyblion o flynyddoedd 9, 10 ac 11.

Mae HCT yn cynnig amrywiaeth eang o gymwysterau Lefel 2 (14-16 oed) a Lefel 3 (i ddisgyblion Ôl-16) mewn Ysgolion Uwchradd ar draws Ceredigion.

Hyfforddiant/ Arbenigedd

  • Cymhwyster Addysgu / TAR / Profiad Perthnasol.
  • Uned L16 o’r Dyfarniadau Dysgu a Datblygu / Tystysgrif Crefft Uwch mewn Sector Galwedigaethol / Dyfarniadau Aseswr D32 a D33 neu Ddyfarniad A1 / Cwblhau prentisiaeth a gydnabyddir yn genedlaethol.
  • Aelodaeth o gorff proffesiynol priodol e.e. Cyngor y Gweithlu Addysg.
  • Cymhwyster TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg.
  • Addysg i Lefel 3 / Lefel A
  • Dyfarniad Aseswyr
  • Dyfarniad IQA
  • Dyfarniad Cymorth Cyntaf
  • Cymhwyster Iechyd a Diogelwch

Ffôn: 01970 633040 | E-bost: info@hctceredigion.org.uk | Gwefan: www.ceredigiontraining.co.uk

Dysgu Bro

Mae Dysgu Bro yn darparu cyfleoedd dysgu i bobl Ceredigion yn y gymuned i’w hannog i ddatblygu diddordebau newydd, gweithio tuag at ennill cymhwyster neu wella eu sgiliau ar gyfer y gweithle.  Mae gennym gyrsiau ar-lein, wyneb yn wyneb ac e-ddysgu mewn Iechyd a Diogelwch, Cyfrifiaduron a TGCh, Sgiliau Hanfodol a Busnes. Cynhelir y dosbarthiadau yn y dydd neu gyda’r nos. Mae’r rhan fwyaf o’n dosbarthiadau ar gyfer rhai dros 16 oed.

Hyfforddiant/ Arbenigedd

  • Cymhwyster TAR neu Addysgu ar Lefel 3 neu uwch neu fod yn barod i weithio tuag at un.
  • Arbenigedd pwnc ar Lefel 3 neu uwch gan Sefydliad Dyfarnu.

Ffôn: 01970 633540 | E-bost: admin@dysgubro.org.uk | Gwefan: www.dysgubro.org.uk

Tîm Cymorth Cyflogadwyedd

Mae Gweithffyrdd+ yn darparu cefnogaeth i’r Di-waith Hirdymor, Di-waith Tymor Byr a’r rhai Economaidd Anweithgar. Mae’n anelu at y rhai sy’n 25 oed neu’n hŷn, heb gymryd rhan mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant (NEET) neu’r rheiny sy’n wynebu rhwystrau cymhleth megis cyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar eu gwaith, bod yn ofalwr, cymwysterau isel neu ddim o gwbl, neu o Leiafrif Ethnig Du.

Cymorth a ddarperir

Cymorth 1:1 i gyfranogwyr gydag ysgrifennu CV – Sgiliau cyfweld – Cymorth gyda cheisiadau am swyddi, Chwilio am Swydd – Cyfleoedd Gwaith â Thâl – Hyfforddiant – Cyfleoedd i wirfoddoli – Cyllid ar gyfer teithio a threuliau eraill – PPE.

Cymunedau ar gyfer Gwaith+

Ariennir gan Lywodraeth Cymru. Ar gyfer unigolion 16 oed a hŷn sydd mewn tlodi neu mewn perygl o fod mewn tlodi. Gall y rheiny sy’n cymryd rhan fod yn:

Profi tlodi mewn gwaith – yn ddi-waith – byw ar isafswm cyflog – yn ei chael hi’n anodd talu’r biliau misol sylfaenol – ar gontractau gwaith heb oriau.

Cymorth a ddarperir

Cymorth 1:1 i gyfranogwyr gydag ysgrifennu CV a ffug-gyfweliadau – Cymorth gyda cheisiadau am swyddi, Chwilio am Swyddi – uwchsgilio a chyllido amrywiaeth o hyfforddiant – help i ddechrau busnes – Cyllid ar gyfer teithio a threuliau eraill – PPE.

Hyfforddiant/ Arbenigedd

  • Addysg i lefel gradd neu â phedair blynedd (cyfwerth) o brofiad / yn gallu arddangos sgiliau trosglwyddadwy.
  • Wedi cwblhau neu’n barod i gwblhau NVQ Lefel 4 Cyngor a Chyfarwyddyd neu gymhwyster cyfatebol.

Ffôn: 01545 574193 | E-bost: TCC-EST@ceredigion.gov.uk | Gwefan: www.ceredigion.gov.uk