Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.  Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.

Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy’n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i’r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.

Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae’r timau wedi’u strwythuro ynddo yma.

Braslun o’r Tîm Canolfannau Lles

Y Gwasanaeth Canolfannau Lles yw gwasanaeth arweiniol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer darparu a datblygu cyfleoedd ar gyfer Gweithgarwch Corfforol.

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys dau dîm:

  • Gweithgaredd Corfforol a Chwarae
  • Hybiau Lles

Gweithgarwch Corfforol a Chwarae

Mae gan y tîm Gweithgarwch Corfforol a Chwarae ddau faes penodol:

Ymyrraeth Iechyd Gweithgaredd Corfforol a Chwarae

Mae Ymyrraeth Iechyd yn darparu ystod o gyfleoedd cyffredinol a phenodol sy’n ymwneud yn bennaf ag Oedolion ac Oedolion Hŷn.  Mae Mentoriaid Ffordd o Fyw Actif cymwys iawn gan y tîm sy’n creu rhaglenni o weithgarwch wedi’i deilwra ar gyfer unigolion. Gall y rhaglen gynnwys cyfleoedd o un neu fwy o’r ymyriadau canlynol: 

  • Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff (NERS) ar gyfer unigolion sydd â Chyflyrau Cronig neu sydd mewn perygl o’u datblygu
  • Cerdded er Lles
  • Dosbarthiadau Sefydlogrwydd neu Sadrwydd Corfforol
  • Bydis Ymarfer Corff (Oedolion ag Anableddau Dysgu)
  • Ffit am Oes ( Rhaglen 60+ gynt)

Gofynion:

  • Hyfforddwr Cymwys Campfa Lefel 3
  • Cymhwyster Ymarferydd Ymarfer Corff i Gleifion Atgyfeirio, Diploma Lefel 3
  • Wedi’i gofrestru ar Lefel 3 CIMSPA
  • Cymwys o ran Cymorth Cyntaf, CPR a Diffibriliwr
  • Cymwysterau Lefel 4:
  • Adsefydlu yn dilyn Canser
  • Adsefydlu ysgyfeintiol
  • Iechyd Meddwl
  • Adsefydlu yn galon Cam IV

Gweithgarwch Corfforol a Chwarae yw cangen ddatblygu’r gwasanaeth sy’n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i ddatblygu cyfleoedd cynhwysol er mwyn i bobl o bob oed fod yn gorfforol actif.  Gall y cyfleoedd hyn fod mewn lleoliadau addysgol a chymunedol a chynnwys Chwarae, Gweithgaredd Hamdden a Chwaraeon.  Dyma enghreifftiau o rai o’r ymyriadau / dulliau a ddarperir:

  • Llysgenhadon Ifanc / Arweinwyr Ifanc
  • Cyngor am grantiau i Sefydliadau Chwaraeon Cymunedol
  • Cyngor Chwaraeon Ceredigion
  • Rhaglen Teuluoedd Actif mewn partneriaeth â Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf ac Adran Gofal Plant
  • Ffit mewn 5
  • Marciau ar fannau chwarae mewn ysgolion
  • Cyfleoedd am weithgarwch corfforol allgyrsiol mewn ysgolion
  • Gweithgareddau yn rhithiol drwy sianel YouTube Ceredigion Actif: Ceredigion Actif – YouTube
  • Datblygu gweithgarwch cynhwysol
  • Gweithgareddau Gwyliau
  • Datblygu chwarae

Gofynion:

  • Cymwys o ran Cymorth Cyntaf, CPR a Diffibriliwr
  • Hyfforddiant uwch Arwyddion Diogelwch
  • Cymwysterau Gwaith Chwarae 

Canolfannau Lles

Mae’r Hybiau Lles wedi’u rhannu’n ddwy ardal ddaearyddol: Canol a De, a’r Gogledd, ac maent yn gyfrifol am redeg yr holl gyfleusterau hamdden sy’n eiddo i’r awdurdod lleol yn yr ardaloedd hynny sydd ar hyn o bryd yn cynnwys:

Canol a De Ceredigion

  • Canolfan Hamdden Aberaeron
    • Canolfan Hamdden a chae chwarae pob tywydd Aberteifi
    • Canolfan Hamdden a chae chwarae pob tywydd Llanbed
    • Pwll Nofio Llanbed
    • Cae chwarae pob tywydd Synod Inn

Gogledd Ceredigion

  • Neuadd Chwaraeon Penglais
    • Canolfan Hamdden a Phwll Nofio Plascrug

Bwriad y Cyngor yw creu Canolfannau Lles ym mhob ardal ddaearyddol gan gychwyn yn ardal y Canol drwy drawsnewid Canolfan Hamdden Llanbed.

Bydd y Ganolfan Lles yn cynnwys gwasanaethau sy’n ystyried ac yn gwella’r elfennau corfforol, meddyliol a chymdeithasol sydd ynghlwm wrth les unigolyn er mwyn iddynt gyflawni eu llawn botensial. Bydd y rhain yn cynnwys gwasanaethau iechyd a lles gydol oes (gan gynnwys cymorth iechyd meddwl), cyngor am sgiliau a chyflogaeth, caledi a chymorth tai, gwasanaethau i bobl ifanc a chymorth i ofalwyr, ac ati. 

Ar hyn o bryd mae’r cyfleusterau yn cynnig y ddarpariaeth hamdden draddodiadol sy’n cynnwys y gwasanaethau canlynol:

  • Sesiynau Nofio i’r Cyhoedd
  • Rhaglen Dysgu Nofio
  • Dosbarthiadau Ymarfer Corff
  • Ystafell Ffitrwydd (cardiofasgwlaidd a phwysau)
  • Cynigir pecynnau aelodaeth i gael mynediad i weithgareddau
  • Gweithgareddau yn y Gwyliau
  • Hyfforddiant Achubwr Bywyd a Chymorth Cyntaf
  • Llogi ystafelloedd cyfarfod
  • Sboncen (Canolfan Hamdden Plascrug yn unig)

Mae’r Canolfannau Lles hefyd yn cefnogi cyfleusterau’r ymddiriedolaethau cymunedol yn y sir, sef:

  • Pwll Nofio Aberaeron
    • Pwll Nofio Aberteifi
    • Calon Tysul

Gofynion

  • Cymhwyster Achubwr Bywyd mewn Pwll Nofio
  • Cymwys o ran Cymorth Cyntaf, CPR a Diffibriliwr
  • Hyfforddwr Campfa L2
  • Gweithredwr offer pwll nofio
  • Athro/athrawes nofio L1 / L2