Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.  Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.

Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy’n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i’r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.

Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae’r timau wedi’u strwythuro ynddo yma.

Braslun o’r Tîm Cymorth Estynedig

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Estynedig yn cael ei ddatblygu o dan y model newydd hwn. Mae’r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd yn cynnwys 3 grŵp o staff:

Y Tim Plant Anabl:

  • Rheolwr Tîm
  • 1 Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol 
  • 1 Therapydd Galwedigaethol
  • 3 Gweithiwr Cymdeithasol – anableddau cyffredinol
  • 1 Gweithiwr Cymdeithasol sy’n arbenigo mewn Awtistiaeth
  • 2 Weithiwr Prosiect

Y Tîm Cymunedol Anableddau Dysgu:

  • Yr un Rheolwr Tîm â’r Tîm Plant Anabl
  • 2 Uwch Ymarferydd
  • 1 Gweithiwr Cymdeithasol sy’n arbenigo mewn Awtistiaeth
  • 3 Gweithiwr Cymdeithasol – anableddau cyffredinol
  • 3 Chynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol.

Bydd gan bob Rheolwr Tîm, Uwch Ymarferydd (ac eithrio’r sawl sy’n ymgymryd â rôl y Therapydd Galwedigaethol) a Gweithiwr Cymdeithasol gymhwyster ym maes gwaith cymdeithasol. Fel rhan o’r rôl, bydd ganddynt ddealltwriaeth dda o’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i’w gwaith a bydd hyn yn rhan annatod o’r hyn y byddant yn ei wneud bob dydd. Byddant hefyd yn meddu ar wybodaeth drylwyr am anableddau a sut y mae anableddau yn effeithio ar fywyd defnyddiwr y gwasanaeth o ddydd i ddydd. Bydd gan y Gweithwyr Cymdeithasol sy’n arbenigo ar awtistiaeth wybodaeth dda o’r Cod Ymarfer Awtistiaeth a byddant yn medru rhannu hyn â’u cydweithwyr. Hefyd, bydd y Gweithwyr Cymdeithasol yn barod i wneud hyfforddiant Aseswyr Budd Pennaf fel y gallant wneud asesiadau o ran y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid (DoLS).

Bydd angen i’r Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol feddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a bydd ganddynt brofiad o weithio gyda phlant ac oedolion sydd ag anableddau.

Tîm y Ddeddf Galluedd Meddyliol:

  • Rheolwr Tîm
  • 3 Uwch Weithiwr Cymdeithasol

Bydd gan y Rheolwr Tîm a’r Uwch Weithwyr Cymdeithasol gymhwyster ym maes gwaith cymdeithasol. Bydd ganddynt y cymwysterau i gynnal asesiadau budd pennaf ac i wneud asesiadau o ran y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid. Bydd ganddynt ddealltwriaeth o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol a byddant yn manteisio ar bob cyfle i ddatblygu dealltwriaeth dda o’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid.