Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.  Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.

Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy’n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i’r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.

Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae’r timau wedi’u strwythuro ynddo yma.

Braslun o’r Tîm Diogelu a Gwella Ansawdd

Mae’r Gwasanaeth Diogelu a Gwella Ansawdd yn gweithio’n agos gyda’r Heddlu, Iechyd, Addysg ac asiantaethau partner eraill mewn ymateb i adroddiadau diogelu am oedolyn neu blentyn sydd mewn perygl, cynllunio ymyraethau a’u gweithredu, er mwyn rheoli risg a chynyddu diogelwch, adolygu annibynnol a materion yn ymwneud â gwella ansawdd gwasanaeth/darparwr, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cyhoeddus a Llesiant a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Swyddi o dan y Rheolwyr Tîm:

  • Uwch Ymarferydd
  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Swyddog Adolygu Annibynnol
  • Swyddog Arweiniol y Gwasanaeth Ansawdd a Gwella
  • Swyddog Monitro Contractau

Mae gweithiwr cymdeithasolsy’n Uwch Ymarferydd yn unigolyn proffesiynol profiadol ym maes gwaith cymdeithasol. Ei rôl yw rheoliymholiadau diogelu, cynnal trafodaethau strategaeth a chyfarfodydd strategaeth.  Bydd yr Uwch Ymarferydd hefyd yn goruchwylio ac yn cynorthwyo unrhyw weithwyr cymdeithasol neu fyfyrwyr o fewn y tîm.   Bydd yr Uwch Ymarferydd yn rheoli llwyth achos sy’n ymwneud â chynnal ymholiadau Adran 47 neu Adran 126 ac unrhyw asesiadau neu ymchwiliadau diogelu pellach wedi hynny.   

Bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn brofiadol ac yn derbyn hyfforddiant penodol ar gyfer ymchwiliadau Adran 47 ac ymholiadau Adran 126, ermwyn datblygu gwybodaeth am gamdriniaeth ac esgeulustod.   Bydd cyfleoedd i’r gweithiwr cymdeithasol ddatblygu sgiliau a gwybodaeth a gweithio ar sail gydol oes, ond bydd hefyd, ar yr un pryd, yn cynnal arbenigedd ynghylch plant ac oedolion. 

Bydd Swyddogion Adolygu Annibynnol yn weithwyr cymdeithasol profiadol a fydd yn cynnal adolygiadau statudol ar gyfer y plant hynnysy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol a phobl ifanc sy’n derbyn cymorth y Cynllun Llwybr.  Bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol hefyd yn cadeirio cynadleddau Amddiffyn Plant amlasiantaethol, y cynadleddau cychwynnol yn ogystal â’r adolygiadau, a bydd yn hwyluso’r broses o wneud penderfyniadau, wrth ystyried a yw plant yn dioddef o gamdriniaeth neu esgeulustod ac a ddylid eu rhoi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. 

Bydd Swyddog Arweiniol y Gwasanaeth Ansawdd a Gwella yn gweithio gyda’r holl wasanaethau a gomisiynwyd ar gyfer plant ac oedolion er mwyn sicrhau bod y gofal a’r cymorth y mae pobl yn eu derbyn o’r ansawdd uchaf ac yn bodloni anghenion ac yn sicrhau cymaint o annibyniaeth â phosibl a’r ansawdd bywyd gorau.   Byddant yn rheoli tîm bach sy’n monitro contractau ac yn arwain y tîm wrth ymwneud â rhaglen o fonitro contractau ar ran yr holl ddarparwyr, yn rheoli unrhyw bryderon o ran darparwyr nad ydynt yn bodloni’r trothwy sydd i’w reoli o dan y Gweithdrefnau Diogelu.   Bydd deiliad y swydd hon yn gyfrifol am gadeirio a rheoli’r Broses Uwchgyfeirio Pryderon Darparwyr, Proses y Panel Monitro Rhyngasiantaethol ar y cyd a Phroses Grŵp Cymorth Gweithrediadau’r Cartref  a byddai’n gyfrifol am wneud argymhellion i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran rheoli risg y darparwr hwnnw.   Mae’r swydd hon hefyd yn gyfrifol am ddatblygu proses sicrhau ansawdd ar gyfer arferion gwaith cymdeithasol ym maes diogelu, gan gynnwys cynnal archwiliadau ansawdd  gwaith diogelu a sicrhau bod prosesau’n cael eu datblygu i alluogi llais plant/oedolion mewn perygl a’u teuluoedd i fod yn rhan o’r broses sicrhau ansawdd.

Bydd y Swyddog Monitro Contractau yn gweithio’n agos gyda’r Swyddog Arweiniol er mwyn cynnal rhaglen o ymweliadau â’r holl rai a gomisiynwyd yn ddarparwyr plant ac oedolion, er mwyn sicrhau ansawdd monitro rhaglenni contractau, o fewn a thu allan y sir.  Bydd y Swyddog hefyd yn cynnal ymweliadau monitro â darparwyr sydd o dan y broses uwchgyfeirio pryderon a bydd yn monitro yn erbyn unrhyw Gynlluniau Gweithredu Datblygiadol a Chywirol sydd wedi eu datblygu ar gyfer y darparwyr a bydd yn adrodd yn y Prosesau Uwchgyfeirio Pryderon / Panel Monitro Rhyngasiantaethol ar y Cyd a Phroses Grŵp Cymorth Gweithrediadau’r Cartref.