Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.
Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod. Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.
Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy’n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i’r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.
Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae’r timau wedi’u strwythuro ynddo yma.
Mae’r Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau yn gweithio’n agos gyda darparwyr arbenigol Iechyd a’r 3ydd Sector a phartneriaid eraill i gefnogi unigolion a’u teuluoedd mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau. Mae’r Tîm yn darparu cymorth i oedolion a theuluoedd sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau cymhleth, gan eu cefnogi i gyflawni newid a hyrwyddo eu lles.
Mae rolau’r Rheolwr Tîm yn cynnwys:
Maent yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n effeithiol ac adrodd yn ôl i’n partneriaid statudol. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r gofynion a’r dangosyddion perfformiad yn ei Chynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau.
Rôl Gweithiwr Cymdeithasol:
I wneud hyn mae angen y sgiliau ar y Gweithiwr Cymdeithasol i ymgysylltu ag oedolion sy’n aml yn teimlo eu bod wedi’u gwthio i’r cyrion neu’n anfodlon ymddiried mewn gwasanaethau er mwyn eu hasesu a’u cefnogi.
Rôl Gweithiwr Cefnogi:
Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cynnwys rheoli:
Gwasanaeth Statudol Cyfiawnder Ieuenctid
Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (YJS) yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr addysg, heddwas, gweithiwr iechyd, y gwasanaeth prawf, cyfiawnder adferol a rheolwyr achos. Mae’r tîm yn cynnwys pobl o’r asiantaethau gwahanol hyn i helpu i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl ifanc i’w hatal rhag troseddu.
Mae’r YJS:
GICD/Gwasanaeth Trothwy Gofal
Mae Gwasanaethau Cymorth Dwys i Deuluoedd (IFSS) yn darparu ymyriadau dwys, tymor byr sydd wedi’u hanelu at deuluoedd mewn argyfwng, lle mae perygl ar fin dod i mewn i ofal plant. Mae IFFS yn gweithio’n ddwys gyda theuluoedd i geisio lleihau argyfwng teuluol, gwella gweithrediad y teulu a chadw plant yn ddiogel i fyw gartref gyda’u rhieni biolegol.
Mae Gweithwyr Cymorth Trothwy Gofal yn darparu cymorth ymarferol i sicrhau bod plant yn ddiogel gartref a chymorth ymarferol yn ôl yr angen.