Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.  Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.

Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy’n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i’r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.

Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae’r timau wedi’u strwythuro ynddo yma.

Braslun o’r Tîm Uned Cyfeirio Disgyblion Ceredigion

Rydym yn browd o’n hysgol, ei phobl ifanc a’r hyn maen nhw’n ei gyflawni. Yr hyn na fyddwch yn gallu ei brofi ar ein gwefan yw’r ethos cynhwysol a chadarnhaol a safon uchel y dysgu sy’n rhywbeth y mae llawer o’n hymwelwyr yn sylwi arno. Mae ein staff medrus ac ymroddgar yn cynnig dull personol i ddiwallu anghenion pob disgybl unigol gan eu hannog i ddod yn ddysgwyr gydol oes a fydd yn gallu cyfrannu’n gadarnhaol i’w cymunedau.

Mae Uned Cyfeirio Disgyblion Ceredigion yn ymfalchïo mewn datblygu a chynnal partneriaethau rhagorol gydag amrywiaeth o asiantaethau ac aelodau’r gymuned ehangach. Mae hyn yn cyfoethogi’r cwriwcwlwm a’r cymorth personol y mae ein disgyblion yn ei dderbyn. Mae’r rhain yn cynnwys partneriaethau gyda Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol, Tîm Teulu, Cyfiawnder Ieuenctid, Cwnselwyr, CHOICES, Swyddogion Addysg yr Heddlu, Gwasanaeth Seicoleg Addysgol, Gwasanaeth Cynghori ADY, Darparwyr y Cwricwlwm Amgen, HCT, Gyrfa Cymru a chyflogwyr lleol, Ysgolion Prif Ffrwd a grwpiau cymunedol lleol. Rydym hefyd yn ymfalchïo yn y berthynas gadarnhaol a ddatblygwn gyda’n rhieni a’n teuluoedd sy’n sicrhau ein bod yn gwella iechyd a lles ein disgyblion.

Ein hamcanion craidd:

  1. Cefnogi iechyd corfforol a meddyliol, lles a hapusrwydd ein disgyblion drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a chymorth arbenigol i unigolion.
  2. Darparu cwricwlwm deniadol, ysgogol, cynhwysol a phersonol ar gyfer pob disgybl yn ein gofal, a fydd yn sicrhau cynnydd parhaus ym mhob agwedd ar ddysgu.
  3. Datblygu sgiliau allweddol ein disgyblion mewn Llythrennedd, Rhifedd a sgiliau Digidol.
  4. Defnyddio ystod o strategaethau a fydd yn galluogi ein disgyblion i ail-integreiddio mewn lleoliad prif ffrwd, a fydd yn eu hysgogi ymhellach i ddysgu a chyflawni.
  5. Cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol, moesol, ysbrydol a diwylliannol pob disgybl a fydd yn eu galluogi i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain.
  6. Nodi ac ymarfer strategaethau a sgiliau ar gyfer eu haddysg ac am oes, a fydd yn sicrhau eu hannibyniaeth ac yn helpu ein disgyblion i wneud y dewisiadau cywir.
  7. Rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i’n disgyblion ennill achrediad a gydnabyddir yn genedlaethol.

Gofynion y Staff

Athrawon –  Gradd/TAR neu gymhwyster cyfatebol

Mentoriaid –  CYPSM, Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch, HLTA, NVQ, Ymarfer Effeithiol ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid – Lefel 4 neu gyfwerth