Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.  Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.

Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy’n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i’r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.

Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae’r timau wedi’u strwythuro ynddo yma.

Braslun o’r Tîm Gofal wedi’i Gynllunio – Plant ac Oedolion

Tîm Plant

Mae Tîm Plant y Gwasanaeth Gofal wedi’i Gynllunio yn cydweithio’n agos gydag asiantaethau sy’n bartneriaid i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â chynlluniau gofal, cymorth a diogelu. Mae hyn yn cynnwys plant sydd angen gofal a chymorth, amddiffyn plant, plant sy’n derbyn gofal/gyda phrofiad o ofal, rhai sy’n gadael gofal a’r rhai sydd â chynlluniau sefydlog i aros gydag aelodau o’r teulu neu i gael eu mabwysiadu.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys Rheolwr Tîm:

  • Uwch Ymarferwyr
  • Gweithwyr Cymdeithasol
  • Gweithwyr Cymdeithasol Mabwysiadu
  • Ymgynghorwyr Personol
  • Gweithiwr NEET
  • Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol
  • Gweithiwr Addysg
  • Uwch-weithiwr Cyswllt
  • Cydlynydd Gweithgareddau
  • Gweithiwr Cymorth Cyswllt Teuluoedd

Mae’r Uwch Ymarferydd gwaith cymdeithasol yn weithiwr cymdeithasol profiadol sy’n gweithio gyda llwyth achosion bach ond cymhleth ac â dyletswyddau goruchwyliwr gwaith cymdeithasol.

Disgwylir i Weithwyr Cymdeithasol ymgymryd â’r dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a deddfau allweddol eraill i sicrhau canlyniadau da i blant a theuluoedd. Mae hyn yn cynnwys gwaith llys pan fo angen.

Bydd Gweithwyr Cymdeithasol Mabwysiadu yn Weithwyr Cymdeithasol arbenigol sy’n ymgymryd â’r dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol.

Rôl yr Ymgynghorydd Personol yw rhoi cymorth i’r rhai cymwys sy’n gadael gofal a chyflawni dyletswyddau parthed Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015

Rôl y Gweithiwr NEET yw rhoi cymorth i blant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal ac sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, er mwyn cael mynediad i gyfleoedd cadarnhaol

Bydd Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol yn cyflawni swyddogaethau cymorth ar y cyd â Gweithwyr Cymdeithasol y tîm a byddant yn gallu mynd am gyfleoedd i gael cymhwyster gwaith cymdeithasol os dymunant.

Bydd y Gweithiwr Addysg yn gweithio’n agos gydag ysgolion i gefnogi anghenion addysgol a chynlluniau statudol y plant sy’n derbyn gofal.

Bydd y Cydlynydd Gweithgareddau yn helpu gyda gweithgareddau wedi’u targedu ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac eraill, i gefnogi eu lles a sefydlogrwydd eu lleoliadau.

Rôl yr Uwch-weithiwr Cyswllt Teulu yw cydlynu a darparu trefniadau cyswllt – dan oruchwyliaeth neu â chymorth – ar gyfer plant mewn gofal.

Bydd Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd yn cynnal sesiynau cyswllt â theuluoedd – dan oruchwyliaeth neu â chymorth – ac yn cyflawni rolau cymorth uniongyrchol eraill gyda phlant a phobl ifanc a theuluoedd.

Tîm Oedolion

Prif rôl Tîm Oedolion y Gwasanaeth Gofal wedi’i Gynllunio yw gweithio gydag oedolion hŷn a’u gofalwyr, gan eu cefnogi nhw i gyflawni eu canlyniadau llesiant yn unol â’r dyletswyddau statudol o dan Ran 3 a 4, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae’r rôl yn cynnwys cyflawni asesiadau cynhwysfawr o angen, gwneud asesiadau gofalwyr, rheoli gofal, adolygu cynlluniau gofal a darparu gwasanaethau i’r rheiny y mae asesiad yn nodi bod angen cynllun gofal a chymorth arnynt. Hefyd, bydd y staff yn cynorthwyo unigolion i ddatrys anawsterau mawr, gwella eu sgiliau ar gyfer ymdopi a chryfhau eu gwytnwch a’u hannibyniaeth.

Bydd gofyn i’r staff weithio yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau statudol cyfredol, yn ogystal â pholisïau, gweithdrefnau ac arferion y sir, i asesu, comisiynu ac adolygu gwasanaethau cymorth ac ymyriadau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y rheiny sydd mewn perygl neu sy’n agored i niwed.

Hefyd, mae’n ofynnol i’r staff gydweithio â’u cymheiriaid yn y sector statudol a’r sector annibynnol i sicrhau ansawdd y gwasanaethau a dull amlasiantaethol o rymuso defnyddwyr gwasanaeth i siarad drostynt eu hunain gan sicrhau ar yr un pryd eu bod yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn.

Bydd staff sydd â chymwysterau addas yn cydymffurfio â’r gofynion statudol a chyfreithiol gan ddilyn y fframweithiau a nodir ym mholisïau a gweithdrefnau’r asiantaeth ynghyd â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Fel rhan o’r rôl, bydd gofyn i chi wneud penderfyniadau er lles pennaf unigolion a chefnogi oedolion nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i ymdrin â phob agwedd ar eu heiddo personol a’u materion ariannol yn unol â rheoliadau’r Ddeddf Galluedd Meddyliol.  

Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys Rheolwr Tîm:

  • Uwch Ymarferwyr
  • Gweithwyr Cymdeithasol
  • Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol

Mae’r Uwch Ymarferydd gwaith cymdeithasol yn weithiwr cymdeithasol profiadol sy’n gweithio gyda llwyth achosion bach ond cymhleth ac â dyletswyddau goruchwyliwr gwaith cymdeithasol.

Disgwylir i Weithwyr Cymdeithasol ymgymryd â’r dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a deddfau allweddol eraill i sicrhau canlyniadau da i blant a theuluoedd. Mae hyn yn cynnwys gwaith llys pan fo angen.

Bydd Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol yn cyflawni swyddogaethau cymorth ar y cyd â Gweithwyr Cymdeithasol y tîm a byddant yn gallu mynd am gyfleoedd i gael cymhwyster gwaith cymdeithasol os dymunant.