Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.  Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.

Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy’n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i’r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.

Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae’r timau wedi’u strwythuro ynddo yma

Braslun o’r Tîm Ymyrraeth Gynnar

Mae’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar yn darparu cymorth ataliol gydol oes sy’n canolbwyntio ar y person. Mae yna ddau dîm yn y gwasanaeth, sef:

Tîm Cymorth Gofalwyr a’r Gymuned

Mae’r tîm cymorth Gofalwyr a’r Gymuned yn datblygu cyfleoedd a gwasanaethau sy’n cefnogi pobl yn eu cymunedau.  Mae’r tîm yn gweithio gyda phobl o bob oed i’w cysylltu â chymorth hwylus ar gyfer unigolion a grwpiau. Rydym yn gweithio’n glòs gyda chydweithwyr ar draws yr Awdurdod Lleol, Iechyd a gyda’r 3ydd Sector i sicrhau fod pobl yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn.  Yn ogystal â bod y tîm yn un gydol oes sy’n gweithio gyda’r cyhoedd, mae yna bwyslais hefyd yn y tîm ar feysydd arbenigol sef Heneiddio’n Dda yng Ngheredigion, y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, y Cysylltwyr Cymunedol a’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr.

Hyfforddiant/ Arbenigedd

  • Gwytnwch a Lles i Ofalwyr mewn cyflogaeth
  • Gwytnwch a Lles i Ofalwyr Ifanc
  • Gwytnwch a Lles i Ofalwyr yn y gymuned
  • Ymgysylltu â’r Gymuned
  • Cymorth i ofalwyr Di-dâl
  • Ymwybyddiaeth Gofalwyr i dimau
  • Cefnogi gofalwyr mewn cyflogaeth
  • Ymwybyddiaeth Alcohol
  • Gwneud coctels di-alcohol
  • Defnyddio Dewis
  • Dod yn olygydd ar Dewis

Tîm Cymorth Rhianta a Theuluoedd

Mae’r Tîm Cymorth Rhianta a Theuluoedd yn cynnig cymorth eang i deuluoedd, plant, rhieni a gofalwyr. Mae’r tîm yn canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar i gael canlyniadau llwyddiannus i’r rhai y maen nhw’n gweithio gyda nhw. Mae’r cyfrifoldeb am gydlynu Tîm Teulu yn gorwedd yn y tîm, gyda phecynnau cymorth aml-asiantaeth a holistaidd yn cael eu darparu. Darperir cymorth i deuluoedd gan ein Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd sy’n gallu gweithio gyda theuluoedd/ gofalwyr plant 0-18 oed.  Trefnir rhaglen Dechrau’n Deg hefyd yn y tîm hwn, sef rhaglen ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda sy’n rhoi cymorth wedi’i dargedu i blant 0-3 oed. Rhoddir cymorth i unigolion a grwpiau ac mae amrywiaeth o raglenni rhianta ynghyd â chymorth pwrpasol. Mae’r tîm yn rheoli sawl Canolfan Deulu a Chanolfannau Plant Integredig yn y sir. Hefyd mae’r tîm yn gallu darparu cefnogaeth uniongyrchol i blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed.

Hyfforddiant/ Arbenigedd

  • SLC – Elklan, Wellcom – Athro/athrawes SLC
  • Cymorth Cyntaf
  • Cyflwyno Rhaglenni – BOB, cysylltiadau â theuluoedd
  • Tylino Babis
  • Cwblhau asesiadau e.e. JAFF
  • Gyrru bws
  • 3 staff gyda chymwysterau dysgu.