Mae’r Gwasanaethau Brysbennu Integredig ac Asesu yn cynnwys tair elfen:
Sifft
Mae’n gweithredu fel ceidwad yr holl ymholiadau gan gynnwys Clic ac atgyfeiriadau electronig. Bydd Sifft yn adolygu pob atgyfeiriad ac yn casglu gwybodaeth ychwanegol er mwyn gwneud penderfyniad ar y camau nesaf, er enghraifft uwchgyfeirio i Borth Cynnal (Diogelu), isgyfeirio i Borth Cymorth Cynnar, aseinio i Borth Gofal ar gyfer asesu integredig cymesur. Bydd Sifft hefyd yn rhoi gwybodaeth a chyngor lle’n briodol i gefnogi cydnerthedd teuluoedd lle nad oes angen cymryd camau pellach.
Brysbennu
Bydd Brysbennu Integredig yn ymgymryd ag asesiad cymesur gan ddefnyddio’r model Arwyddion Diogelwch i ddynodi pryderon y person a’i deulu, cryfderau a chytuno ar gynllun i ddatrys eu pryderon. Gellir dynodi asesiadau pellach yn dilyn ymholiadau Brysbennu.
Asesu
Bydd gweithwyr yn ymgymryd ag asesiad cleient a theulu os oes angen gan ddefnyddio dull sy’n cynnwys y teulu cyfan. Bydd y ffocws ar un o adfer ar gyfer oedolion lle caiff cynllun adfer ei ddatblygu i gynorthwyo’r teulu i adennill ei annibyniaeth.
Rolau dan y Rheolwyr Tîm
Bydd yr Uwch-ymarferwyr yn Weithwyr Cymdeithasol cofrestredig profiadol ac yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth allweddol a Rheoliadau sy’n ymwneud ag oedolion a phlant. Bydd yr Uwch-Ymarferydd yn cefnogi’r rheolwyr tîm yn nhrefniadau dydd i ddydd Brysbennu Integredig ac yn goruchwylio staff gofal cymdeithasol eraill o fewn gwasanaeth Porth Gofal. Disgwylir i’r Uwch-ymarferydd ymgymryd â llwyth bach o achosion cymhleth.
Bydd gan Weithwyr Cymdeithasol ddealltwriaeth dda o ddeddfwriaeth allweddol a Rheoliadau mewn perthynas ag oedolion a phlant. Dyrennir achosion mwy cymhleth i Weithwyr Cymdeithasol er mwyn ymgymryd â’r asesiadau cleient a theulu ar gyfer oedolion a phlant gan ganolbwyntio’n benodol ar atal. Gofynnir am ddealltwriaeth dda o Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r gallu i ymgymryd ag asesiadau galluedd a chyfarfodydd budd pennaf.
Bydd Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol o fewn Sifft yn adolygu a chasglu gwybodaeth ychwanegol, os oes angen, er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch symud ymlaen at gau atgyfeiriad yn dilyn darparu gwybodaeth a chyngor i’r person. Bydd Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol o fewn Asesiadau Porth Gofal yn gweithio gydag unigolion i ddatblygu nodau a chynllun adfer. Bydd Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol hefyd yn ymgymryd ag asesiadau cleient a theulu gyda’r rhai ag anghenion nad ydynt yn rhai cymhleth. Bydd modd cyfnewid Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol o fewn Sifft ac Asesu yn dibynnu ar y galwadau ar y gwasanaeth.
Bydd Cynorthwywyr Derbyn yn cymryd cyfrifoldeb dros fonitro cyfrif e-bost cyffredinol Porth Gofal ac yn mewnbynnu atgyfeiriadau electronig ar y system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) a WCCIS fel y bo’n briodol. Bydd y Cynorthwyydd Derbyn hefyd yn gwneud cyswllt â’r person neu bobl broffesiynol eraill i gasglu gwybodaeth ychwanegol yn dilyn atgyfeiriad electronig er mwyn symud yr atgyfeiriad i Sifft. Bydd y Cynorthwyydd Derbyn yn helpu’r Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol wrth ymateb i ymholiadau am wybodaeth. Bydd y Cynorthwyydd Derbyn hefyd yn helpu’r Rheolwr Tîm i ddiweddaru cyhoeddiadau fel taflenni gwybodaeth.