Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.  Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.

Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy’n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i’r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.

Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae’r timau wedi’u strwythuro ynddo yma.

Braslun o’r Tîm Lles Meddyliol

Mae’r Tîm Lles Meddyliol yn cydweithio’n agos gyda gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd ac asiantaethau partner eraill o ran anghenion oedolion a phlant am gymorth yn unol a’n dyletswyddau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Rolau o dan y Rheolwr Tîm:

  • Uwch Ymarferydd
  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Gweithiwr Cymorth
  • Ymarferydd Lles Emosiynol

Mae’r Uwch Ymarferydd gwaith cymdeithasol yn weithiwr iechyd meddwl proffesiynol profiadol gyda chymhwyster Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (AMHP). Mae’n gweithio gyda llwyth achosion bach ond cymhleth ac â dyletswyddau goruchwyliwr gwaith cymdeithasol.

Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn meddu ar gymhwyster AMHP neu maen nhw’n gweithio tuag ato. Mae’n ofynnol eu bod yn helpu i gyflawni dyletswyddau AMHP a’r ystod gyfan o swyddogaethau gwaith cymdeithasol statudol a geir yn Neddf Iechyd Meddwl 1983 (fel y’i diwygiwyd yn 2007). Mae angen deall Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn dda a gallu cynnal asesiadau capasiti a chyfarfodydd lles pennaf. 

Mae Gweithwyr Cymorth yn meddu ar ddealltwriaeth dda o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a’i pherthynas â’r Ddeddf Iechyd Meddwl, gan gweithio ar draws y tîm i sicrhau’r canlyniadau gorau i’r cleientiaid.

Mae’r Ymarferydd Lles Emosiynol hefyd yn gweithio’n agos gydag unigolion bregus a chyda theuluoedd, gofalwyr a rhwydweithiau, gan ddeall y ddeddfwriaeth uchod.