Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.  Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.

Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy’n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i’r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.

Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae’r timau wedi’u strwythuro ynddo yma.

Braslun o’r Tîm Cymorth ac Atal

Mae’r Gwasanaeth Cymorth ac Atal yn cynnwys timau aml-ddisgyblaeth, gyda’r nod cyffredinol o alluogi plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau ehangach i gael eu grymuso, i gyflawni, i ddatblygu’n bersonol, yn emosiynol, yn gymdeithasol a bod y gorau y gallant fod. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac Arwyddion Diogelwch yn sail i bopeth a wnawn. Mae ein timau’n darparu cefnogaeth gyffredinol a phenodol sy’n cynnwys:

  • Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu; Gwaith ieuenctid mewn ysgolion, cynnydd addysgol, dysgu achrededig a chyfranogi

Mae Gweithwyr Ieuenctid sydd wedi’u lleoli mewn ysgolion yn ymgysylltu â phobl ifanc 11 – 18 oed mewn cyd-destunau cyffredinol a phenodol. Mae Gweithwyr Ieuenctid yn ceisio adeiladu a chynnal perthynas ystyrlon â phob disgybl ysgol gan gynnwys disgyblion a gyfeiriwyd ac a ystyrir mewn perygl o ymbellháu o addysg brif ffrwd o achos un neu lu o resymau.

Mae Gweithwyr Ieuenctid yn creu perthynas yn seiliedig ar ymwneud gwirfoddol. Drwy gymryd rhan gydag unigolion, gall Gweithwyr Ieuenctid ddylunio cynllun wedi’i deilwra sy’n cynnig cymorth ar sail anghenion personol, cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yr unigolyn. Gellir darparu hyn o fewn a thu allan i amgylchedd yr ysgol, a gall fod yn benodol neu’n gyffredinol.

  • Cymorth a Chyrhaeddiad;Mentora cynradd/ uwchradd, pontio, lles emosiynol, meithrin a gwaith allgymorth

Mae Mentoriaid Sgiliau Plant a Phobl Ifanc yn cefnogi plant a phobl ifanc sy’n gallu ymddwyn yn heriol o ganlyniad i’w profiadau cymdeithasol ac emosiynol. Mae mentoriaid yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc mewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, a lleoliadau addysgol eraill.

Mae mentoriaid yn hyrwyddo dull cyfannol sy’n seiliedig ar gryfderau a hynny er mwyn deall yn well y rhesymau pam mae plant yn canfod eu hamgylchedd presennol yn heriol. Gwneir hyn ar ffurf un-i-un ac mewn grwpiau bach. Mae hyn er mwyn helpu i reoli eu hemosiynau gan sianelu eu hegni’n gadarnhaol i ganolbwyntio ar lwyddo, yn addysgol ac yn bersonol.

  • Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal; cymorth oed 16-24, gwaith allgymorth cymunedol, canolfannau ieuenctid, darpariaeth benodol a chyffredinol.

Mae ein tîm Gwaith ac Atal Ieuenctid Cymunedol yn darparu ymyriadau wedi’u targedu a chyffredinol gyda’r nod o daclo a lleihau ffactorau risg posib neu faterion sylfaenol megis materion teuluol, cymdeithasol, personol, addysgol, neu iechyd meddwl ac emosiynol, Mae’r rhain yn gallu digwydd a rhoi’r bobl mewn mwy o beryg o droseddu ac aildroseddu. Hefyd, eu hatal rhag gorfod cael ymyrraeth statudol bellach megis gwasanaethau iechyd meddwl proffesiynol, ymyrraeth feddygol a hyd yn oed cymorth tai, er enghraifft.

Mae’r darpariaethau’n amrywio o weithgareddau allgymorth, symudol ac ar wahân, canolfannau ieuenctid a chlybiau, a rhaglenni a phrosiectau ar y cyd, wedi’u targedu.

  • Llwybrau Cymorth; Ymyriadau gydol oed, dyraniadau, sgrinio, sicrhau ansawdd, dadansoddi data a pherfformiad, cymorth adnoddau

Y tîm Llwybrau Cymorth yw’r porth i bawb sy’n cael eu cyfeirio at Borth Cymorth Cynnar a’i wasanaethau p’un â ydynt yn dod o Clic neu yn cael eu brysbennu gan Borth Gofal. Mae’r tîm yn darparu cymorth uniongyrchol i bob gwasanaeth ym Mhorth Cymorth Cynnar i nodi, dyrannu, monitro a gwerthuso ymyriadau neu gymorth.

Mae’r tîm yn cefnogi’r protocolau ‘camu i fyny a chamu i lawr’ drwy weithio gyda Phorth Cynnal a Phorth Gofal er mwyn sicrhau cymorth amserol ac effeithiol i blant/pobl ifanc, oedolion ac i deuluoedd/gofalwyr.

Mae’r tîm hefyd yn helpu i oruchwylio data a phrosesau sicrhau ansawdd gwasanaethau Porth Cymorth Cynnar, gan sicrhau ein bod yn gallu diwallu anghenion dinasyddion mor effeithlon ac effeithiol â phosib.

Gofynion:

Gradd 7 > 10

  • Addysg i lefel gradd mewn pwnc perthnasol e.e. Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Blynyddoedd Cynnar, Addysg, Hamdden neu 5 mlynedd (cyfwerth) o brofiad, o leiaf, o weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Gradd 6

  • 5 TGAU Gradd C neu uwch gan gynnwys cymwysterau Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg, neu gymhwyster cyfatebol.

Aelodaeth o gorff proffesiynol priodol e.e. Cyngor y Gweithlu Addysg.

Bydd gofyn i chi ymgymryd â’r cyrsiau e-ddysgu gorfodol canlynol:

  • Diogelu Plant ac Oedolion sy’n wynebu risg – Lefel 1
  • Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
  • Chwythu’r Chwiban
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Diogelu Data
  • Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Diogelwch Gwybodaeth

Hefyd mae’n bosib y bydd gofyn i chi ymgymryd â chyrsiau hyfforddiant eraill sy’n berthnasol i’r rôl hon megis:

  • Modiwl Diogelu
  • Rheoli sefyllfaoedd heriol
  • Team Teach a / neu Reoli Ymddygiad Positif
  • Hyfforddiant atodiad
  • Gwaith Uniongyrchol mewn grwpiau neu 1-1
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 – Ymwybyddiaeth gyffredinol
  • Arwyddion Diogelwch a Lles
  • Cymorth Cyntaf
  • Cymhwyster asesu rhianta
  • Dadansoddi a myfyrio wrth asesu
  • Hyfforddiant MIDAS