Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.  Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.

Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy’n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i’r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.

Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae’r timau wedi’u strwythuro ynddo yma.

Braslun o Wasanaethau wedi’u Targedu a Thymor Byr

Mae’r Gwasanaethau wedi’u Targedu a Thymor Byr yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Gofal a Galluogi wedi’i Dargedu sy’n darparu gwasanaethau gofal wedi’u rheoleiddio
  • Y Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol sy’n rhoi cymorth ac arweiniad i unigolion sy’n dewis derbyn taliadau uniongyrchol a defnyddio’r arian i gyflogi Cynorthwywyr Personol, neu gomisiynu gwasanaethau gofal sy’n cyd-fynd â’u hamcanion penodol a’u ffordd o fyw
  • Logisteg a Gweithrediadau y Ganolfan Byw’n Annibynnol (CILC) gan gynnwys Gwasanaeth Integredig Offer Cymunedol, Hwb PPE a Gwasanaethau Synhwyraidd a Gofal wedi’i alluogi gan Dechnoleg.

Mae’r rhain yn dwyn ynghyd ystod o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedol eraill sy’n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar i gadw pobl yn iach ac yn annibynnol. Gwneir hyn drwy roi’r gofal cywir yn y cartref neu yn y gymuned, darparu offer a defnyddio technoleg gynorthwyol, ac opsiynau o ran gwasanaethau sy’n cynnwys adsefydlu, ailalluogi, taliadau uniongyrchol, a darpariaeth gofal cartref fwy estynedig.

Gwasanaeth Gofal a Galluogi wedi’i Dargedu

Mae’r Gwasanaeth Gofal a Galluogi wedi’i Dargedu yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau gofal a galluogi personol ac ymarferol i oedolion Ceredigion, i’w galluogi i barhau i fyw yn y gymuned yn unol â’u ffordd o fyw, yn annibynnol, yn ddiogel, gydag urddas a pharch. 

Ein nod yw helpu pobl i aros gartref a bod mor annibynnol ac actif â phosib, atal ymweliad diangen â’r ysbyty, cefnogi i’w rhyddhau’n brydlon o’r ysbyty, ac atal mynediad diangen i gartref gofal a chynorthwyo pobl i ddychwelyd i’w cartref o ofal preswyl. Y prif amcan yw gwella ansawdd bywyd a lleddfu’r straen ar unigolion sydd â llai o annibyniaeth yn eu cartref eu hunain o ganlyniad i anabledd, salwch neu oed, a chynnig gwasanaeth galluogi drwy ddarparu staff gofal cymdeithasol cofrestredig a chymwys i sicrhau’r annibyniaeth fwyaf iddynt, gan hyrwyddo ethos “gwneud ar y cyd” yn hytrach na “gwneud ar gyfer”.

Mae’r gwasanaeth yn gweithredu ledled y sir ar sail ardal leol yn y rhwydwaith cymunedol. Rydym yn darparu:

  • Darpariaeth tymor byr Galluogi
  • Gwasanaeth pontio ar gyfer y pecynnau o gymorth gofal hirdymor a gedwir yn y gwasanaeth tra byddwn yn ceisio am gymorth gofal hirdymor
  • Y gwasanaeth pontio er mwyn i atgyfeiriadau D2RA ddychwelyd adref o’r ysbyty
  • Cyswllt dydd i ddydd â’n darparwyr gofal cartref a gomisiynir i roi gofal hirdymor i unigolion yn eu cartref eu hunain

Mae gennym dîm o Weithwyr Gofal a Chymorth sy’n arbenigo mewn cefnogaeth alluogi a hynny am hyd at chwe wythnos i’w cynorthwyo i adennill sgiliau ac annibyniaeth wrth eu gweithgareddau dyddiol. Hefyd defnyddio offer i gynorthwyo gydag ymdrochi, gwisgo a dadwisgo, symud a hebrwng, sgiliau cegin, cefnogaeth/anogaeth, neu raglenni ymarfer corff ar gyfer adsefydlu a datblygu o dan gyfarwyddyd Ffisiotherapydd neu Therapydd Galwedigaethol.

Cyflawnir hyn drwy ymyrraeth ddwys tymor byr ar ôl cyfnod o salwch neu ddamwain. Maen nhw hefyd yn darparu gofal cartref i’r rheiny sydd angen help ychwanegol gyda gofal personol neu orchwylion y cartref er mwyn aros yng nghysur eu cartref eu hunain. Mae ein gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn ymgymryd â thasgau iechyd ychwanegol megis arsylwi unigolion yn ddyddiol i fonitro arwyddion o salwch neu adfer o salwch.

O bryd i’w gilydd efallai y gofynnir i’n staff ymgymryd â thasgau mwy arbenigol. Gellir cyflawni’r tasgau hyn yn dilyn asesiadau risg priodol a dim ond ar ôl cael hyfforddiant penodol. Mae pob aelod o staff yn cael hyfforddiant trwyadl yn y meysydd canlynol:

  • Fframwaith cynefino Cymru Gyfan
  • QCF Lefel 2,3,4 a 5 (Diploma) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol penodol
  • Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Deilydd Pasbort Cymru Gyfan – Codi a Chario
  • Asesydd Cymeradwy Lefel 2 a 3
  • Rhoi meddyginiaeth
  • Iechyd a Diogelwch
  • Atal a Rheoli Heintiau
  • Amrywiaeth o hyfforddiant penodol sy’n ymwneud ag anghenion y defnyddwyr gwasanaethau

Y Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol yn rhoi cymorth ac arweiniad i unigolion sy’n dewis derbyn taliadau uniongyrchol a defnyddio’r arian i gyflogi Cynorthwywyr Personol, neu gomisiynu gwasanaethau gofal sy’n cyd-fynd â’u hamcanion penodol a’u ffordd o fyw.

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi pobl ym mhob grŵp gwasanaeth ledled Ceredigion gan ddarparu gwybodaeth ac arweiniad i oedolion a rhieni plant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal wedi’u nodi. Gall hyn gynnwys cynrychiolwyr, gofalwyr di-dâl a gweithwyr proffesiynol sydd ynghlwm â chefnogi’r person a ddymunai dderbyn Taliad Uniongyrchol at y diben o ddiwallu ei anghenion gofal a chymorth.

Mae’r Swyddogion Cymorth yn hwyluso gwasanaeth yn y gymuned sy’n ymwneud ag unigolion, yn eu hannog ac yn darparu gwybodaeth fedrus ac arbenigol i rymuso pobl sydd wedi dewis Taliad Uniongyrchol i gymryd rheolaeth o’u hanghenion gofal a chymorth.  Mae hyn yn cynnwys rheoli achosion cymhleth, cydweithio â swyddogion gofal cymdeithasol, maes archwilio, cyllid a swyddogaethau corfforaethol, a chwmnïau allanol a mudiadau gwirfoddol.

Mae’r tîm yn cynnig cymorth arbenigol a gwybodaeth:

  • Fframwaith Gwasanaethau’r Taliadau Uniongyrchol
  • Gwasanaeth Recriwtio a Chymorth Cyflogaeth
  • Gwasanaethau’r Gyflogres
  • Gwybodaeth, Cyngor, Cynllunio Cymorth
  • Cyfrifon a Reolir – Taliadau Uniongyrchol
  • Hwb Cynorthwywyr Personol Taliadau Uniongyrchol a Phorth Recriwtio
  • Ymgysylltu, Cymorth a Llesiant y Cynorthwywyr Personol
  • Hyfforddi’r Cynorthwywyr Personol a’r gweithlu Taliadau Uniongyrchol
  • Datblygu Marchnad y Taliadau Uniongyrchol
  • Ymgysylltu â’r gymuned

Mae Tîm y Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol yn cael hyfforddiant arbenigol yn y meysydd canlynol:

  • Deddfwriaeth a rheoliadau’r Taliadau Uniongyrchol
  • Budd-daliadau cyflogaeth ac anabledd, treth, pensiynau, yswiriant
  • Iechyd a Diogelwch
  • Amrywiaeth o hyfforddiant penodol sy’n ymwneud ag anghenion y defnyddwyr gwasanaethau
  • NVQ Lefel 2, Gweinyddu Busnes
  • QCF/NVQ Lefel 4, Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

Y Ganolfan Byw’n Annibynnol (CILC) – Logisteg a Gweithrediadau

Mae Logisteg a Gweithrediadau’r Ganolfan Byw’n Annibynnol (CILC) yn cydlynu a rheoli amrywiaeth o wasanaethau cymorth i gadw pobl yn fwy diogel a mwy annibynnol.  Mae’n helpu i leihau’r risg o dderbyniadau i’r ysbyty a chodymau, hwyluso i drosglwyddo gofal o’r ysbyty yn ôl i’r gymuned, cefnogi rhaglenni gofal canolraddol a galluogi, a rheoli cyflyrau hirdymor mewn ffordd sy’n hyrwyddo annibyniaeth. Mae’r gwasanaeth yn cwmpasu Ceredigion gyfan gan gynnwys lleoliadau gydol oed, iechyd a gofal cymdeithasol, nyrsio a chymunedol. 

Mae ein tîm yn rhan hanfodol o broses y gadwyn gyflenwi gan dderbyn, didoli a dosbarthu nwyddau o’r warws, sicrhau bod cyfleusterau CILC yn cael eu cynnal ac yn ddiogel a chynnig amgylchedd gwaith hwylus ar gyfer Hwb Porth Gofal. Rydym yn cynnig wyneb cyhoeddus i’r gwasanaeth offer ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gofal, gweithwyr proffesiynol, a chyflenwyr. Cefnogir amrywiaeth o wasanaethau drwy CILC:

  • Mae’r Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig (ICES) yn hyrwyddo byw’n annibynnol ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae ein hoffer cymunedol yn amrywio o fframiau cerdded syml a ffyn baglau i offer mwy cymhleth megis gwelyau, offer codi ac offer gofal pwysedd.  Darperir, gosodir a chasglir offer cymunedol o gartrefi pobl a lleoliadau megis cartrefi gofal, ysbytai ac ysgolion, a chefnogir y gwaith o wasanaethu a thrwsio offer, glanhau, diheintio ac ailgylchu.
  • Mae’r Hwb Offer Diogelu Personol (PPE) yn cynnig porth i archebu a dosbarthu ledled yr awdurdod lleol, i ddefnyddwyr gwasanaethau bregus a phartneriaid, ac mae’n cynnwys darparu ar gyfer cadwyn gyflenwi Dyfeisiau Llif Unffordd (LFD).
  • Mae’r logisteg a’r dosbarthu yn rhoi cymorth cydlynus ar gyfer gwasanaethau cysylltiedig h.y. Gofal wedi’i alluogi gan Dechnoleg a Gwasanaethau Synhwyraidd, Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol a’r Gwasanaethau Galluogi a Gofal Wedi’i Dargedu.
  • Hybiau Clyfar/Cymorth Rhithiol a fydd wedi’u lleoli yng nghyfleusterau eraill y cyngor i roi mynediad i wybodaeth ynghylch Gofal wedi’i alluogi gan Dechnoleg/ technoleg gynorthwyol (cymhorthion ar gyfer bywyd bob dydd, larymau, synhwyryddion, dyfeisiau i’w gwisgo), technoleg cwsmeriaid (ffonau clyfar, llechenni, watshis clyfar, sain clyfar/cymorth rhithiol, a rhaglenni realiti rhithwir) a rhaglenni gofal digidol.
  • Rheoli cyfleusterau adeilad Canolfan Byw’n Annibynnol Ceredigion a gofod swyddfa’r desgiau poeth.

Mae’r Tîm yn cefnogi ystod eang o wasanaethau wedi’u targedu a thymor byr sy’n gofyn am elfen o wybodaeth dechnegol. Mae’r tîm wedi cael eu hyfforddi yn y meysydd canlynol:

  • Deilydd Pasbort Cymru Gyfan – Codi a Chario
  • Asesydd Cymeradwy Lefel 2 a 3
  • Iechyd a Diogelwch/ IOSH
  • Atal a Rheoli Heintiau
  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn y Gweithle
  • QCF Lefel 4, Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
  • Gwaith warws, logisteg a dosbarthu, rheoli cyfleusterau