Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn falch o fod yn sefydliad dwyieithog, sy'n statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg.

Yr Iaith Gymraeg

Oherwydd ein bod yn gwasanaethu cymuned ddwyieithog bydd rhai o’n swyddi yn gofyn eich bod yn gallu siarad Cymraeg. Bydd yr angen i siarad Cymraeg yn ogystal â lefel y rhuglder yn dibynnu ar y swydd.

Os oes gofyniad Cymraeg yna bydd hynny’n cael ei nodi ar y fanyleb person. Bydd y fanyleb person hefyd yn nodi a oes angen i chi allu siarad Cymraeg i’r lefel sydd ei hangen pan gewch eich penodi neu a allwch gyflawni hynny o fewn cyfnod amser penodol.

Bydd unrhyw ymgeisydd llwyddiannus sydd angen dysgu neu wella ei sgiliau Cymraeg yn cael eu cefnogi’n llwyr i wneud hynny. Mae nifer o fentrau Cymraeg ar waith yn y Cyngor ac o ganlyniad rydym yn falch o ddweud bod gennym gymuned ffyniannus o ddysgwyr Cymraeg

O ganlyniad i’n hymrwymiad i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, gellir cyflwyno ceisiadau am gyflogaeth gyda ni mewn unrhyw iaith. Ni fydd eich dewis iaith yn golygu bod eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol.

Mae gennych hawl hefyd i ddewis eich dewis iaith ar gyfer cyfweliad.

Os oes gennych unrhyw bryderon, mae croeso i chi gysylltu â adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk.