Mae ein staff sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl. Maent yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i iechyd, diogelwch a lles plant ac oedolion sy’n agored i niwed yng Ngheredigion

Os ydych chi’n dymuno dilyn gyrfa ym maes gofal mae gennym ddigon o gyfleoedd i chi, megis gweithio fel gofalwr yn un o’n cartrefi gofal preswyl neu weithio yn y gymuned fel gweithiwr cymdeithasol. Mae gennym hefyd gyfleoedd ym maes therapi galwedigaethol, iechyd meddwl, rheoli gofal cymdeithasol, comisiynu gofal cymdeithasol a llawer mwy.

Beth bynnag yw eich dyhead galwedigaethol fe welwch fod ein gweithwyr yn gwneud eu gorau glas bob amser, gan anelu at sicrhau bod penderfyniadau’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar gefnogi ein cymunedau ac amddiffyn y rhai sy’n agored i niwed.

 

Rydym yn tyfu ein timau Gwaith Cymdeithasol!

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol neu’n ddarpar weithiwr cymdeithasol? Ydych chi wedi ystyried ymarfer gyda ni yn Nhîm Ceredigion? Rydym yn gwneud pethau’n wahanol yng Ngheredigion,  rydym yn trawsnewid y ffordd y gall unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr dderbyn cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt. Darganfyddwch fwy yma.
 
Hoffech chi gwrdd â rhai o’n timau a chael gwybod am y cyfleoedd a’r manteision rydyn ni’n eu cynnig?
 
Anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk a gallwn roi gwybod i chi pan fyddwn yn cynnal ein sesiwn wybodaeth nesaf.
 
Byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi! 
 

Swyddi Gwag Cyfredol

Gweithiwr Cymorth a Gofal Lefel 2 (Nos) – Cartref Gofal Preswyl Yr Hafod

Aberteifi

23,500 - 23,893

21 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 06/11/2024
Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 – Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun x 2

Hafan y Waun, Aberystwyth

23,500 - 23,893

18 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 06/11/2024
Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 – Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun x 8

Hafan y Waun, Aberystwyth

23,500 - 23,893

24 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 06/11/2024
Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol

Penmorfa, Aberaeron

29,269 - 31,364

37 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 27/10/2024
Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol – Tîm Anableddau (Oedolion)

Penmorfa, Aberaeron

29,269 - 31,364

37 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 30/10/2024
Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 3

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

26,421 - 28,282

22.2 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 28/10/2024
Gweithiwr Cymdeithasol – Lles Meddyliol

Penmorfa, Aberaeron

33,024 - 38,223

37 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 23/10/2024
Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 – Cartref Gofal Preswyl Min Y Môr

Aberaeron

23,500 - 23,893

30 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 27/10/2024
Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 – Cartref Gofal Preswyl Min Y Môr

Aberaeron

23,500 - 23,893

24 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 10/11/2024
Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 3 – Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg (Nos)

Llanbedr Pont Steffan

26,421 - 28,282

24.5 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 24/10/2024
Rheolwr Cofrestredig – Llety Diogel i Blant

Penmorfa, Aberaeron

43,421 - 45,441

37 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 28/10/2024
Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 3 – Cartref Gofal Preswyl Tregerddan

Aberystwyth

26,421 - 28,282

24 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 28/10/2024
Gweithiwr Cymorth a Gofal Lefel 3 – Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun (21 awr)

Hafan y Waun, Aberystwyth

26,421 - 28,282

21 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 01/11/2024
Gweithiwr Cymorth a Gofal Lefel 3 – Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun (24 awr)

Hafan y Waun, Aberystwyth

26,421 - 28,282

24 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 01/11/2024
Rheolwr Cynorthwyol – Llety Diogel i Blant x 3

Penmorfa, Aberaeron

33,024 - 34,834

37 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 10/11/2024
Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 – Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg

Llanbedr Pont Steffan

23,500 - 23,893

18 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 30/10/2024
Uwch Ymarferydd – Gwasanaethau Asesu a Brysbennu Integredig

Penmorfa, Aberaeron

40,221 - 42,403

37 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 28/10/2024
Gweithiwr Cymdeithasol – Gwasanaethau Uniongyrchol: Maethu

Aberaeron

33,024 - 38,223

37 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 06/11/2024

Straeon Gweithwyr

Mae'r Cyngor wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi fy helpu i ddatblygu fy addysg a chael gradd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, NVQ mewn Rheoli ac Arwain yn ogystal â dysgu Cymraeg!

Janette Dixon, Rheolwr Tîm - Derbyn a Chydlynu Gweithrediadau Integredig
Darllenwch y stori lawn

Er gwaethaf yr holl heriau, mae’n swydd sy’n rhoi’r fath foddhad, y nod yw gwneud bywydau pobl yn hapus ac yn rhydd o boen wrth iddynt heneiddio ac mae gweld yr hapusrwydd ar wynebau’r preswylwyr pan fônt allan neu wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd yn gwneud y cyfan yn werth chweil.

Dilys Megicks, Rheolwr, Cartref Preswyl Hafan Deg
Darllenwch y stori lawn

Gall y swydd fod yn heriol ar adegau, ond gall unrhyw swydd arall fod yn heriol hefyd. Mae mwy o foddhad i’w gael nag sydd yna o heriau. Rwy’n hoffi’r amrywiaeth o dasgau, ac nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath!

Ceri Anne Hughes, Cynorthwyydd Gofal dan Brentisiaeth
Darllenwch y stori lawn