Mae Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu ceisiadau am brofiad gwaith gan bob aelod o'r cyhoedd. P'un a ydych chi'n fyfyriwr, yn chwilio am waith, neu'n syml eisiau cael cipolwg ar weithio i Gyngor Sir Ceredigion, rydym yn cynnig cyfleoedd ar draws ystod eang o feysydd gwasanaeth.
I wneud cais, cwblhewch ein ffurflen gais profiad gwaith a’i hanfon drwy e-bost at: dysgu@ceredigion.gov.uk.
Yn eich cais, dywedwch ychydig wrthym am y math o brofiad rydych chi’n chwilio amdano ac unrhyw feysydd o’r cyngor y mae gennych ddiddordeb arbennig ynddynt. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch paru gyda chyfle addas.
Derbynnir ceisiadau drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn argymell gwneud cais ymhell cyn eich dewis dyddiadau i ganiatáu amser ar gyfer trefniadau lleoliad.
Noder nad yw cyfleoedd profiad gwaith yn cael eu gwarantu, fodd bynnag, byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddarparu ar gyfer eich cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â ni yn: Dysgu@ceredigion.gov.uk.
Nodwch os gwelwch yn dda:
Er bod sawl tebygrwydd, mae cymryd rhan mewn lleoliad profiad gwaith a gwirfoddoli yn wahanol i’w gilydd ac yn cael eu trin fel pethau ar wahân. Fel arfer, gellir nodweddu lleoliad profiad gwaith fel a ganlyn:
Lle mae gwirfoddoli fel arfer yn cael ei nodweddu gan y ffactorau canlynol:
Os ydych chi’n awyddus i archwilio cyfle gwirfoddoli, cysylltwch â’n tîm adnoddau dynol ar Humanresources@ceredigion.gov.uk.