Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Datblygwr Deallusrwydd Busnes

Dyddiad Cau: 29/04/2024

Cyfeirnod: REQ105269

37 awr / Parhaol

29,269 - 31,364 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym am recriwtio Ddatblygwr Deallusrwydd Busnes i ymuno â’n Tîm Perfformiad ac Ymchwil yn barhaol, llawn amser.

Rydym yn chwilio am unigolyn i gefnogi swyddogaeth adrodd perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor trwy gynhyrchu adroddiadau perfformiad rheolaidd, datblygu atebion newydd o ran adrodd a chwrdd â gofynion statudol o ran adrodd i Lywodraeth Cymru. Gyda bod yn hyddysg mewn cyfrifiadura i lefel uchel, a gwybodaeth am systemau gwybodaeth busnes, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn brofiadol mewn cynllunio systemau, technolegau Microsoft a delweddu data.

Bydd y person yr ydym yn chwilio amdano yn chwarae rôl hanfodol wrth gyflwyno’r System Wybodaeth Gofal Cymunedol yng Ngheredigion a Rhaglen Gydol Oed y Cyngor i drawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Ngheredigion a gwreiddio data yn y broses o wneud penderfyniadau.

O ddydd i ddydd byddwch chi yn:   

  • cynhyrchu adroddiadau perfformiad amserol a chywir yn unol â’r Fframwaith Perfformiad a Gwella Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol 
  • cynllunio atebion newydd o ran adrodd i fodloni gofynion cenedlaethol a lleol o ran rheoli perfformiad, ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth ac ar gyfer gofynion cynllunio busnes
  • ymchwilio i atebion technegol newydd at ddibenion Deallusrwydd Busnes i sicrhau bod y Rhaglen Gydol Oed a Lles yn cael ei chefnogi gan fynediad at wybodaeth amserol a chywir
  • rhoi mewnbwn arbenigol ar ddatblygu systemau ac adrodd yn ymwneud â’r Rhaglen Gydol Oed a Lles 
  • cefnogi arolygiadau rheoleiddiol trwy ddarparu data a gwybodaeth
  • cefnogi cydweithwyr ar draws y Rhaglen Gydol Oed a Lles i wneud y defnydd gorau o ddata yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd

Rydym am recriwtio unigolyn gyda:  

  • Gradd mewn Systemau Gwybodaeth Busnes, Cyfrifiadureg neu gymhwyster cyfatebol mewn maes cysylltiedig, neu brofiad cyfatebol 
  • sgiliau systemau TG rhagorol
  • sgiliau rhagorol o ran rhifau 
  • sgiliau da o ran rheoli amser  
  • deall yn dda faterion diogelwch data a chyfrinachedd 
  • yn parchu manylion

Yn ogystal â’r uchod, rydym angen unigolyn sydd â rhywfaint o afael ar y Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus sydd heb y sgìl ieithyddol ofynnol yn cael ei gefnogi’n llwyr i gyrraedd y safon a ddymunir o fewn dwy flynedd i’r penodiad.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi fel gweithiwr gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol hael a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr i’w gweld yma. Yn ogystal, rydym yn ymroi i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn rhoi cefnogaeth i’ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd rydym yn ymroi i gefnogi’ch datblygiad er mwyn ichi allu datblygu eich gyrfa gyda ni.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Lance Achermann, lance.achermann@ceredigion.gov.uk neu 01545 572665 

Cynhelir cyfweliadau: 10/05/2024

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.  

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd

Rydym yn arwain y ffordd o ran perfformiad corfforaethol, polisi corfforaethol, partneriaethau strategol, ymgysylltu, cydlyniant cymunedol ac argyfyngau sifil, ac mae gennym hefyd gyfrifoldeb strategol a gweithredol dros ddiogelu’r cyhoedd: iechyd yr amgylchedd, twyll bwyd, safonau trwyddedu a masnachu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Cwynion, Canmoliaeth a Rhyddid Gwybodaeth
  • Polisi a Pherfformiad Corfforaethol: Perfformiad corfforaethol; Rhestr eiddo; Ymchwil.
  • Diogelu’r Cyhoedd: Iechyd yr amgylchedd; Twyll bwyd; Trwyddedu; Safonau masnach; Rheoli Llygredd; Rheoli Pla; Pwysau a Mesurau; Clefydau Trosglwyddadwy; Iechyd a Diogelwch; Iechyd Anifeiliaid.
  • Partneriaethau Strategol, Ymgysylltu ac Ymchwil: Parhad busnes; Argyfyngau sifil; Partneriaeth diogelwch cymunedol; Ymgysylltu; Cydraddoldeb; Bwrdd gwasanaethau cyhoeddus; Rhaglenni ffoaduriaid.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy