Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Arweinydd Tim Rheoli Datblygu (Y DE)

Dyddiad Cau: 13/05/2024

Cyfeirnod: REQ105285

37 awr / Dros Dro

43,421 - 45,441 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn profiadol a brwdfrydig i arwain un o dimoedd Rheoli Datblygu’r Cyngor am gyfnod dros dro o 12 mis, i gyflenwi dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth.

Mae’r swydd yn cynnig nifer o heriau proffesiynol amrywiol, ond hefyd y gallu i ddylanwadu ar ffurf cymunedau ar draws y Sir yn y dyfodol. Bydd disgwyl i chi fod yn greadigol, yn arloesol ac yn gallu dod o hyd i atebion.

O ddydd i ddydd byddwch chi’n:

  • Cynorthwyo i baratoi a darparu gwasanaeth cynllunio proffesiynol drwy rheoli datblygiad a defnydd tir yn sensitif o fewn y sir.
  • Rheoli a goruchwylio gweithgareddau’r Swyddogion Rheoli Datblygu a’r Cynorthwyydd Rheoli Datblygu yn y tîm priodol.
  • Prosesu ceisiadau ar gyfer caniatad cynllunio
  • Darparu cyngor cyn ymgeisio i ddatblygwyr
  • Amddiffyn penderfyniadau cynllunio’r Cyngor mewn apêl.
  • Cynnal ymchwiliad effeithlon ac effeithiol i dor-rheolaeth cynllunio a deddfwriaeth yn y sir a defnyddio ymyriadau gorfodi priodol yn ôl yr angen.

Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn:

  • Gyda gradd neu gymhwyster tebyg mewn Cynllunio Gwlad a Thref neu bwnc perthnasol arall. 
  • Gyda dealltwriaeth da o hawliadau datblygu a ganiateir a phrofiad o ddelio ag amrywiaeth o geisiadau cynllunio ac achosion gorfodi
  • Gyda’r gallu i gyfathrebu mewn modd gwrthrychol ac yn effeithiol gydag ystod eang o bobl ar lefel amrywiol
  • Sydd yn medru gweithio ag ychydig o oruchwyliaeth a gweithio i amser cau tynn.
  • Gyda ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’r cyhoedd ac ymrwymiad cryf i foddhad cwsmer.

Mae’r swydd yn gofyn am rywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Sylwch y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd i’w benodi.

I gael gwybodaeth fanwl am y rôl hon, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Catrin Newbold (Rheolwr Gwasanaeth – Rheoli Datblygu) Rhif Ffon: (01545) 572131.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

 

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Economi ac Adfywio

Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

  • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
  • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
  • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy