Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 19/05/2024
Cyfeirnod: REQ105304
37 awr / Parhaol
36,648 - 38,223 *
Canolfan Rheidol, Aberystwyth
A ydych chi’n hyfforddwr profiadol sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth?
Ymunwch â’r Tîm Dysgu a Datblygu a helpwch i sicrhau bod gan weithlu’r Cyngor y sgiliau a’r wybodaeth gywir i ddarparu gwasanaethau rhagorol i bobl Ceredigion.
Gan ddefnyddio eich gwybodaeth am theori a sgiliau dysgu wrth gynllunio, datblygu a chyflwyno hyfforddiant, byddwch yn darparu hyfforddiant sy’n bodloni’r gofynion statudol ac anghenion unigolion a grwpiau o staff ar draws y Cyngor.
Mae hon yn swydd gyffrous sy’n gofyn am frwdfrydedd, hyblygrwydd ac ymrwymiad i ddysgu a’r gallu i weithio fel rhan o dîm. Yn gyfathrebwr rhagorol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o ddarparwyr yn y maes dysgu a datblygu i gynnig cyfleoedd, cymwysterau a hyfforddiant a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n gweithlu.
Bydd mynd i ddigwyddiadau Hyfforddi’r Hyfforddwr cyn paratoi, cynllunio a chyflwyno’r rhaglenni hyfforddi yn elfen allweddol o’r rôl hon.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Debbie Ayriss, Debbie.Ayriss@ceredigion.gov.uk neu Victoria Foale, Victoria.Foale@ceredigion.gov.uk
Cynhelir cyfweliadau: wythnos yn dechrau 27 Mai, 2024.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig cymorth i’r sefydliad er mwyn denu, datblygu a chadw gweithlu ystwyth sy’n perfformio’n dda, gan weithio mewn amgylchedd diogel, sy’n gallu darparu gwasanaethau o’r safon uchaf i ddinasyddion Ceredigion nawr ac yn y dyfodol. Ein prif swyddogaeth yw: