Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Uwch Beiriannydd (Asedau a Dylunio)

Dyddiad Cau: 16/08/2024

Cyfeirnod: REQ105323

37 awr / Parhaol

40,221 - 42,403 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion.

Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma.

Rydym ni’n chwilio am Uwch Beiriannydd Strwythurol i arwain y Tîm Dylunio Asedau o dan gyfarwyddyd cyffredinol y Rheolwr Asedau a Dylunio. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydlynu llwyth gwaith y tîm ac yn darparu arbenigedd i’r Gwasanaeth ym maes Peirianneg Sifil a Chynnal a Chadw Asedau.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus radd berthnasol a/neu yn aelod Corfforedig o Sefydliad Proffesiynol perthnasol gan feddu ar brofiad amlwg mewn dylunio dur, concret, coed a gwaith maen.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar o leiaf 3 blynedd o brofiad yn y broses Dylunio Peirianyddol Sifil neu’n medru profi gwaith ym maes rheoli a rheoli ariannol (hyd at £2m) o ran cynlluniau adeiladu mawr a bach.

Yn ogystal â’r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â rhywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon a ddymunir cyn pen dwy flynedd o’i benodi. 

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond ar ben hynny, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni. 

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os dymunwch fod angen unrhyw wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch ag Owen Stephens: Owen.Stephens@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Priffyrdd ac Amgylcheddol

Rydym yn darparu gwasanaethau effeithlon, cynaliadwy a dwyieithog i bobl Ceredigion, gan hybu lles yn ein cymunedau, ymfalchïo mewn amgylchedd iach sy’n cael ei gadw’n dda, a hyder yn ein heconomi leol.

  • Gwasanaethau Trafnidiaeth: Trafnidiaeth gorfforaethol; Rheoli’r fflyd; Gwasanaethau parcio; Harbyrau.
  • Cynnal a Chadw Priffyrdd: Ymateb brys; Archwilio priffyrdd; Gwasanaeth y gaeaf.
  • Datblygu Priffyrdd: Cyswllt Cynllunio; Diogelwch ar y ffyrdd; Trafnidiaeth rhanbarthol; Goleuadau stryd; Gwaith stryd Rheoli traffig; CWIC/NMWTRA; Goruchwylio’r dyluniad; Rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd; Gwella priffyrdd.
  • Gwasanaethau Amgylchedd Leol: Casgliadau gwastraff, Safleoedd gwastraff cartref; Cynnal a chadw tiroedd; Glanhau strydoedd.
Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy