Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 01/06/2026
Cyfeirnod: REQ106502
37 awr / Parhaol
26,403 - 27,694 *
Penmorfa, Aberaeron
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae cyfle wedi codi i Uwch Swyddog Cymorth i’r Gwasanaethau gael ei recriwtio i’r strwythur Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol. Mae hon yn swydd barhaol amser llawn, a fydd yn darparu swyddogaeth cymorth gweinyddol ystwyth ar draws yr Awdurdod, gyda ffocws penodol ar gymryd cofnodion dwyieithog o safon uchel.
Ynglŷn â’r Rôl:
Bydd y rôl yn bennaf yn darparu cymorth i’r Rhaglen Llesiant Gydol Oes, gydag un o’r prif gyfrifoldebau yn canolbwyntio ar gymryd cofnodion cyfrinachol i gefnogi swyddogaethau fel Panel Amddiffyn Oedolion, Amddiffyn Plant a Maethu. Bydd gofyniad ehangach hefyd i ddarparu cymorth gyda Chyfarfodydd Disgyblu Adoddau Dynol a chyfarfodydd aml-asiantaeth cymhleth eraill, yn ôl yr angen.
Ynglŷn â’r Ymgeisydd:
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd wedi’i addysgu i NVQ 4 mewn Gweinyddu Busnes neu sydd â phrofiad cyfatebol. Bydd pedair blynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gweinyddol, gyda chefndir cryf mewn cymryd cofnodion yn hanfodol. Rhaid i chi fod â sgiliau TG da ac ymagwedd fethodegol at waith, gyda sylw rhagorol i fanylion. Bydd y gallu i weithio o dan bwysau i gwrdd â therfynau amser a gweithio o fewn timau amlddisgyblaethol hefyd yn bwysig.
Bydd angen i’r ymgeisydd fod yn hyblyg ac medru addasu, gan y bydd gofyniad i’r deiliad swydd symud rhwng timau, yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth ac i reoli llwythi gwaith cynyddol. Bydd y gallu i fodloni’r lefelau ALTE Cymraeg gofynnol hefyd yn hanfodol.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Roz Evans: roz.evans@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth esmwyth ac effeithlon ar broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i Gynghorwyr; Cefnogaeth PA, gweinyddol a rheoli prosiect i bob maes gwasanaeth; hwyluso etholiadau; tim cyfathrebu; cyfieithu a swyddog polisi Iaith Gymraeg. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys