Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Prif Swyddog Cofrestru a Seremonïau

Dyddiad Cau: 15/05/2026

Cyfeirnod: REQ106585

37 awr / Parhaol

35,412 - 37,280 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Mae swydd wedi codi i benodi Prif Swyddog Cofrestru a Seremoniau – cyfle sydd ddim yn codi’n aml. 

Ynghylch y rôl

Rydym yn chwilio am berson hyderus, brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’n tîm cyfeillgar i helpu arwain a datblygu’n gwasanaeth cofrestru sy’n perfformio’n uchel ac sy’n rhoi pwyslais ar y cwsmer.

Fe fydd prif ddyletswyddau’r swydd yn cynnwys cofrestru genedigaethau a marwolaethau yn ogystal ag arwain a chofrestru priodasau a phartneriaethau sifil. Wrth weithio gyda’r Cofrestrydd Arolygol, fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn goruchwylio ac yn cefnogi aelodau o’r tîm i sicrhau bod pob cofrestriad yn cael eu cwblhau’n gywir ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol.

Bydd y rôl amrywiol yn rhoi boddhad a byddwch yn gweithio gyda’r cyhoedd ar adegau nodedig yn eu bywydau – mae pob diwrnod yn wahanol.

Amdanoch chi

Rhaid i’r Prif Swyddog Cofrestru a Seremoniau;

  • feddu ar sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu, trefnu ac ymdrin â chwsmeriaid
  • bod a phrofiad cryf o arwain ac o reoli pobl
  • gweithio’n gywir gan roi sylw i fanylder
  • meddu ar sgiliau cyfrifiadurol da.

Nid oes rhaid cael profiad blaenorol o weithio mewn gwasanaeth cofrestru oherwydd rhoddir hyfforddiant llawn a pharhaus.

Oherwydd disgwyliadau’r rôl mae’n hanfodol fod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg.

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus fynychu seremonïau mewn lleoliadau amrywiol ledled Ceredigion felly mae’n rhaid iddo/iddi fod â cherbyd ei hun. 

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael i weithio’n rheolaidd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc, ar sail rota yn ddibynnol ar ofynion y gwasanaeth. Rhoddir tâl ychwanegol neu amser o’r gwaith yn lle tâl am yr oriau ychwanegol hyn.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd, cysylltwch â Rhiannon Pugh (Cofrestrydd Arolygol) ar Rhiannon.Pugh@ceredigion.gov.uk

Cynhelir y cyfweliadau ar y 26 ain o Fai 2026. 

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Bydd angen gwiriad DBS ar gyfer y rôl hon. Sylwch nad yw presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle mae pob unigolyn yn cael ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau ynghylch y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni i gael eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas o’r pwys mwyaf i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Cyswllt Cwsmeriaid

Ein nod yw cynnig cymorth a chyngor i drigolion Ceredigion drwy dîm Porth y Gymuned a’r Ganolfan Gyswllt. Rydym hefyd yn darparu cymorth corfforaethol drwy ein timau TGCh, y dderbynfa a thîm yr ystafell bost. Mae ein gwasanaeth yn gyfrifol am y swyddogaethau canlynol:

  • Cofrestru Sifil: Geni, marwolaethau a phriodasau.
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid Corfforaethol: Bathodyn glas; Canolfan gyswllt; Ystafell bost a sganio; Derbynfeydd
  • TGCh a Rheoli Gwybodaeth: Archifau a chofnodion modern; Cymorth TGCh; Seilwaith a diogelwch; Cefnogaeth prosiect a chymhwyso; Reprograffeg, Cymorth Technegol, Datblygu Meddalwedd.
  • Gwasanaethau Llyfrgell
Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy