Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 30/04/2026
Cyfeirnod: REQ106589
37 awr / Parhaol
25,583 - 25,989 *
Depo Glanyrafon, Aberystwyth
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac ysgogol i ymuno â’r Uned Teithio Corfforaethol i Deithwyr (CPTU).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r gwaith o ddarparu a monitro gwasanaethau teithio teithwyr ar gontract ledled y sir, gan sicrhau bod y gwasanaethau’n gweithredu’n effeithlon ac yn unol â pholisi’r Cyngor a gofynion cytundebol.
Gall y prif gyfrifoldebau gynnwys:
Mae’r rôl yn gofyn am ddull trefnus a methodolegol o weithio, sylw cryf i fanylion a sgiliau TG rhagorol. Mae’r gallu i reoli blaenoriaethau cystadleuol a chyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr, contractwyr ac aelodau’r cyhoedd yn hanfodol.
Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm prysur a chefnogol sy’n darparu gwasanaethau teithio hanfodol ledled y sir.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Ein cynnig i chi
Mae cyfraniad ein gweithwyr at iechyd, diogelwch a lles ein cymunedau yn amhrisiadwy. Felly, rydym am sicrhau eich bod yn gweld gweithio i Geredigion mor werth chweil â phosibl.
Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion cyflogaeth, gan gynnwys:
Am ragor o wybodaeth am ein buddion cyflogaeth, cliciwch yma.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Am ragor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Dafydd Rennie ar 01545 570 881.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn darparu gwasanaethau effeithlon, cynaliadwy a dwyieithog i bobl Ceredigion, gan hybu lles yn ein cymunedau, ymfalchïo mewn amgylchedd iach sy’n cael ei gadw’n dda, a hyder yn ein heconomi leol.