Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cydlynydd Dynodedig (CD/DESCo)

Dyddiad Cau: 11/05/2026

Cyfeirnod: REQ106594

22.2 awr / Cyfnod Penodedig

31,537 - 33,699 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Dynodedig (DESCo) creadigol a brwdfrydig, sydd â phrofiad blaenorol o weithio o fewn maes gweinyddol ADY, i ymuno â’r tîm ADY, Lles a Chynhwysiant yng Ngheredigion.

Mae’r rôl Cydlynydd Dynodedig (DESCo) yn hanfodol i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cydymffurfio’n llawn â’i ddyletswyddau statudol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys (Cymru) 2018 (ALNET). Bydd deilydd y swydd yn darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth broffesiynol i deuluoedd, ysgolion ac asiantaethau allanol, gan sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn derbyn cymorth amserol, cydlynol ac o ansawdd uchel.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • hyrwyddo dealltwriaeth a gweithrediad effeithiol Cod ADY Cymru, drwy gyfathrebu dwyieithog effeithiol yn fewnol ac yn allanol
  • cydlynu cyfarfodydd person-ganolog aml-asiantaethol
  • datblygu, craffu ar a chefnogi gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) statudol
  • monitro arferion cynhwysol a sicrhau eu bod wedi’u hymgorffori’n gyson ar draws lleoliadau addysg
  • hyrwyddo llais y plentyn a’r teulu, gan hwyluso cyfathrebu effeithiol, cefnogi datrys gwrthdaro, a meithrin perthnasoedd cryf gydag ystod eang o randdeiliaid

Yn ogystal â chymorth uniongyrchol, bydd deilydd y swydd yn:

  • cadw cofnodion cywir a chyfredol
  • monitro ac adolygu effaith darpariaeth ADY
  • cydlynu atgyfeiriadau ysgolion ar gyfer cymorth ychwanegol
  • sicrhau bod holl wariant arian grant gan yr Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio’n llawn â’r telerau, amodau a gofynion adrodd statudol
  • trefnu paneli gwneud penderfyniadau a phaneli cymedroli mewnol, a lledaenu penderfyniadau’n briodol
  • cyfrannu at gynllunio strategol y gwasanaeth drwy nodi bylchau a rhwystrau, lleihau dibyniaeth ar gyfathrebu adweithiol, a modelu arfer gorau ar gyfer staff ysgolion a swyddogion yr awdurdod lleol
  • rheoli lefelau uchel o gyfathrebu drwy gydweithio’n effeithiol â thimau mewnol ac asiantaethau allanol, gan sicrhau bod pob lleoliad addysg, gan gynnwys rhai y tu allan i’r sir, yn bodloni’r anghenion a nodir yn y CDUau ac yn cyflawni’r rhwymedigaethau statudol

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n ceisio secondiad. Argymhellir gofyn am ganiatâd rheolwr llinell/cyflogwr cyn gwneud cais i sicrhau y gallwch ddychwelyd i’ch swydd barhaol unwaith y bydd y secondiad wedi dod i ben.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch â Angharad Welsby ar Angharad.Welsby@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol 
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy