Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 14/05/2026
Cyfeirnod: REQ106622
Achlysurol
26,403 - 27,694 *
Canolfan Rheidol, Aberystwyth
Ynghylch y rôl
Rydym yn chwilio am berson hyderus, brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’n tîm cyfeillgar i helpu i ddarparu gwasanaeth cofrestru effeithlon sy’n rhoi pwyslais ar y cwsmer.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru priodasau a phartneriaethau sifil i ddechrau cyn mynd ymlaen maes o law i ymgymryd â dyletswyddau eraill gan gynnwys arwain seremonïau a chofrestru genedigaethau a marwolaethau.
Bydd y rôl amrywiol yn rhoi boddhad a byddwch yn gweithio gyda’r cyhoedd ar adegau nodedig yn eu bywydau – mae pob diwrnod yn wahanol.
Gan taw contract achlysurol yw hwn, prif swyddogaeth y swydd hon fydd cyflenwi pan fydd swyddogion cofrestru eraill yn absennol a chyflenwi dros gyfnodau prysur. Felly bydd yr oriau gwaith yn amrywiol ac yn anodd i’w rhagweld. Nid oes oriau penodol ar gyfer pob wythnos a chynigir y swydd “yn ôl y galw”.
Amdanoch chi
Rhaid i swyddog cofrestru feddu ar sgiliau rhagorol o ran ymdrin â chwsmeriaid, gweithio’n gywir gan roi sylw i fanylder, a meddu ar sgiliau cyfrifiadurol da. Nid oes rhaid cael profiad blaenorol o weithio mewn gwasanaeth cofrestru oherwydd rhoddir hyfforddiant llawn a pharhaus.
Oherwydd disgwyliadau’r rôl mae’n hanfodol fod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg.
Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus fynychu seremonïau mewn lleoliadau amrywiol ledled Ceredigion felly mae’n rhaid iddo/iddi fod â cherbyd ei hun.
Mae’n hanfodol cael agwedd hyblyg at y patrwm gwaith, oherwydd gellid gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus hefyd weithio ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc, yn unol ag anghenion y gwasanaeth. Er mwyn hwyluso rhediad y gwasanaeth, bydd angen i ddeiliad y swydd gadarnhau pryd y bydd ar gael oleuaf mis o flaen llaw.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd, cysylltwch â Rhiannon Pugh (Cofrestrydd Arolygol) ar Rhiannon.Pugh@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Bydd angen gwiriad DBS ar gyfer y rôl hon. Sylwch nad yw presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle mae pob unigolyn yn cael ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau ynghylch y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni i gael eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas o’r pwys mwyaf i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Ein nod yw cynnig cymorth a chyngor i drigolion Ceredigion drwy dîm Porth y Gymuned a’r Ganolfan Gyswllt. Rydym hefyd yn darparu cymorth corfforaethol drwy ein timau TGCh, y dderbynfa a thîm yr ystafell bost. Mae ein gwasanaeth yn gyfrifol am y swyddogaethau canlynol: