Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Prentisiaeth: Technegydd Cefnogi’r Gwasanaeth TGCh

Dyddiad Cau: 27/05/2026

Cyfeirnod: REQ106640

37 awr / Cyfnod Penodedig

25,583 *

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Ydych chi’n edrych am gyfle cyffrous i ddysgu wrth i chi weithio a chael profiad a fydd yn hwb i yrfa ym maes TGCh?

Rydym yn chwilio am Brentis i ymuno â’n tîm TGCh prysur sydd wedi ei leoli’n bennaf yng Nghanolfan Rheidol. Byddech yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol, gan ddarparu’r gefnogaeth flaenaf i weithwyr y Cyngor sy’n defnyddio’n system gofnodi fewnol wrth geisio cefnogaeth.

Mae hon yn rôl sy’n datblygu ac o’r herwydd, fe fydd y cyfrifoldebau yn cynyddu wrth i chi gynyddu o ran profiad. Byddwch yn derbyn cefnogaeth gan gydweithwyr profiadol, er mwyn datblygu eich sgiliau i allu cyflawni’r canlynol yn effeithiol:

  • Cefnogi systemau TGCh, gan gynnwys rhwydweithiau, gweinyddwyr, cyfrifiaduron personol, gliniaduron, iPads ac offer TGCh arall, yn ôl yr angen.
  • Gweithredu fel y rhai sy’n darparu’r gefnogaeth flaenaf i ddefnyddwyr TG a hynny dros y ffôn, o bell ac wyneb yn wyneb.
  • Cymhwyso medrau rhesymegol a chreadigol i gefnogi a datblygu systemau.
  • Cyflwyno gwasanaeth o’r radd flaenaf i gwsmeriaid ac ymrwymo i wella’r profiad i’r cwsmer.

Y Brentisiaeth

Bydd eich prentisiaeth yn para am 21 mis ac, ar ôl cwblhau’r rhaglen, byddwch yn ennill Diploma Lefel 3 – Peiriannydd Seilwaith Digidol. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o weithdai oddi ar y safle (a allai olygu teithio o bryd i’w gilydd), dysgu ar-lein, a hyfforddiant yn y gweithle.

Rydym yn chwilio am:

  • Rywun sy’n ffynnu wrth weithio fel rhan o dîm ac sy’n ddigon dyfeisgar i weithio’n annibynnol wrth gynyddu mewn hyder. Bydd gennych fedrau TG cadarn a medrau datrys problemau creadigol, gan roi sylw heb ei ail i fanylion.
  • Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
  • Bydd angen 4 TGAU (neu gymwysterau cyfatebol), gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg Gradd C neu uwch).
  • Bydd angen y brwdfrydedd a’r egni i ymgymryd â datblygiad proffesiynol yn y gwaith.
  • Ni roddir ystyriaeth i geisiadau gan y sawl sydd eisoes wedi ennill gradd mewn TGCh.

Mae hwn yn gam rhagorol tuag at wneud y gorau o’r cyfleoedd gyrfa yn y Cyngor a datblygu sail gadarn o ran medrau cefnogi TGCh.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Gellir dod o hyd i fanylion pellach am y brentisiaeth yma:-
Peiriannydd Seilwaith Digidol Lefel 3 – Cymhwyster | GCS

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Edward Land – 01970633208 / edward.land@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Cyswllt Cwsmeriaid

Ein nod yw cynnig cymorth a chyngor i drigolion Ceredigion drwy dîm Porth y Gymuned a’r Ganolfan Gyswllt. Rydym hefyd yn darparu cymorth corfforaethol drwy ein timau TGCh, y dderbynfa a thîm yr ystafell bost. Mae ein gwasanaeth yn gyfrifol am y swyddogaethau canlynol:

  • Cofrestru Sifil: Geni, marwolaethau a phriodasau.
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid Corfforaethol: Bathodyn glas; Canolfan gyswllt; Ystafell bost a sganio; Derbynfeydd
  • TGCh a Rheoli Gwybodaeth: Archifau a chofnodion modern; Cymorth TGCh; Seilwaith a diogelwch; Cefnogaeth prosiect a chymhwyso; Reprograffeg, Cymorth Technegol, Datblygu Meddalwedd.
  • Gwasanaethau Llyfrgell
Canolfan Rheidol
Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy