Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 03/06/2026
Cyfeirnod: REQ106655
37 awr / Parhaol
39,152 - 45,091 *
Canolfan Rheidol, Aberystwyth
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae Gwasanaeth Caffael a Chomisiynu’r Cyngor yn awyddus i benodi Rheolwr Prynu i Dalu brwdfrydig ac ymroddedig, sy’n meddu ar feddylfryd sy’n canolbwyntio ar atebion, i arwain ein swyddogaeth prynu a thalu ac i sicrhau gwelliant parhaus.
Bydd gofyn i chi sicrhau bod y prosesau cywir a phriodol yn cael eu dilyn gan y byddwch yn gyfrifol am orchwylio taith y cyflenwyr o’r dechrau i’r diwedd – hynny yw, o’r archeb brynu gychwynnol hyd at y trefniadau ar gyfer talu am eu nwyddau, eu gwaith neu eu gwasanaethau.
Er bod hon yn rôl reoli allweddol, nid ydym yn disgwyl y bydd gennych brofiad penodol o ran prynu a thalu. Efallai mai hwn fydd eich cyfle cyntaf chi i fod yn rheolwr llinell, ac mae’n bwysicach bod gennych agwedd gadarnhaol at y gwaith a’ch bod yn awyddus i ymgymryd â’r her o reoli a chymell tîm prysur. Byddwch hefyd yn teimlo’n gyfforddus yn adolygu ac yn gwella ein prosesau.
Ynglŷn â’r rôl
Bydd yr unigolyn sy’n ymgymryd â’r rôl hon yn deall yn iawn bwysigrwydd rhoi sylw i fanylion a chadw at derfynau amser. Bydd hefyd yn fedrus ac yn gadarnhaol wrth ymdrin â phobl, gan feithrin a chynnal perthynas dda â’r staff, y cwsmeriaid a’r cyflenwyr wrth ymateb i heriau o ddydd i ddydd.
Bydd y prif dasgau a chyfrifoldebau yn cynnwys y canlynol:
Os mai chi yw’r ymgeisydd iawn a’ch bod yn medru dangos bod gennych y potensial i fod yn rheolwr, ond nad oes gennych y profiad angenrheidiol ar hyn o bryd, byddem yn barod i ystyried cynnig y rôl i chi ar Radd 10 cyn i chi symud ymlaen i Radd 11.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Gradd 10)
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Gradd 11)
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch âJeanette Jones ar Jeanette.Jones2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol drwy fonitro arian yn ofalus ac yn gyfrifol, caffael corfforaethol effeithiol, talu’n brydlon ac yn gywir o ran asesiadau ariannol / credydwyr a chasglu dyledion / trethiant lleol yn brydlon.