Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 15/07/2026
Cyfeirnod: REQ106727
37 awr / Parhaol
31,537 - 40,777 *
Penmorfa, Aberaeron
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Edrycham ddechrau neu ddatblygu gyrfa ym maes Iechyd Amgylcheddol a Diogelu’r Cyhoedd? Rydym yn chwilio am 3 unigolyn i ymuno â’n tîm Diogelu’r Cyhoedd.
Mae’r cyfle hwn yn addas i ymgeiswyr ar wahanol gamau yn eu gyrfa. Os oes gennych y cymwysterau a’r profiad gofynnol eisoes, gellir eich penodi fel Swyddog Diogelu’r Cyhoedd ar Radd 10. Os nad oes gennych y rhain eto, gellir eich penodi fel Cynorthwyydd Gorfodi Diogelu’r Cyhoedd ar Radd 8, gyda chefnogaeth i ennill y cymhwyster ac i symud ymlaen i rôl Swyddog.
Ynglŷn â’r rôl
Gan weithio fel swyddog awdurdodedig y Cyngor, byddwch yn cyfrannu at ystod eang o ddyletswyddau ym maes Iechyd yr Amgylchedd a Diogelu’r Cyhoedd. Mae’r rôl yn cynnwys arolygiadau, ymchwiliadau ac arolygon, trin cwynion, gwaith samplu a monitro, cefnogi achosion gorfodi, paratoi llythyrau a hysbysiadau, cynnal cofnodion clir, a helpu i hyrwyddo cydymffurfiaeth drwy roi cyngor i’r cyhoedd, busnesau a sefydliadau partner.
Ar gyfer ymgeiswyr a benodir yn Gynorthwyydd Gorfodi Diogelu’r Cyhoedd, mae’r swydd wedi’i chynllunio fel cyfle datblygu, gan ddarparu profiad ymarferol ar draws swyddogaethau allweddol diogelu’r cyhoedd wrth adeiladu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i symud ymlaen. Ar gyfer ymgeiswyr sydd eisoes yn bodloni manyleb person y Swyddog Diogelu’r Cyhoedd, mae potensial i gael eu penodi’n uniongyrchol i’r rôl ehangach hon.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am bobl sy’n frwdfrydig, trefnus ac wedi ymrwymo i wasanaeth cyhoeddus. Byddwch yn gallu adeiladu perthnasoedd gwaith effeithiol, defnyddio barn gadarn wrth ymdrin â phroblemau ymarferol, cyfathrebu’n glir, gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, a delio â phobl mewn modd proffesiynol a thactegol. Mae sgiliau TG cryf yn hanfodol, gan gynnwys hyder wrth ddefnyddio rhaglenni Microsoft 365 a’r gallu i weithio’n effeithiol mewn amgylchedd digidol modern.
Ar gyfer swydd datblygiad gyrfa Cynorthwyydd Gorfodi Diogelu’r Cyhoedd, dylai ymgeiswyr feddu ar radd neu gymhwyster cyfatebol mewn disgyblaeth wyddonol, amgylcheddol, iechyd y cyhoedd neu reoleiddiol berthnasol, neu mewn maes arall sy’n cynnig sgiliau trosglwyddadwy addas ar gyfer y rôl. Mae’r rôl hefyd yn gofyn am y gallu i reoli gwybodaeth gyfrinachol.
Bydd angen I ddeiliad y swydd allu teithio I wahanol leoliadau ledled y sir ar fyr rybudd, gan ddefnyddio cludiant personol, I ymateb yn brydlon I anghenion y gwasanaeth
Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer rôl Swyddog Diogelu’r Cyhoedd allu dangos eu bod yn bodloni manyleb person lawn y swydd honno, gan gynnwys y cymwysterau gofynnol neu brofiad cyfatebol a’r lefel ehangach o gymhwysedd proffesiynol a ddisgwylir gan Swyddog Diogelu’r Cyhoedd.
Datblygiad a dilyniant gyrfa
Mae swydd y Cynorthwyydd Gorfodi Diogelu’r Cyhoedd yn cynnig llwybr strwythuredig tuag at rôl Swyddog Diogelu’r Cyhoedd ar ôl cwblhau’n llwyddiannus y cymwysterau, y cymwyseddau a’r portffolio tystiolaeth y cytunwyd arnynt, fel arfer o fewn dwy flynedd. Gall datblygiad gynnwys hyfforddiant mewn meysydd megis diogelwch bwyd, diogelu’r amgylchedd, iechyd a diogelwch, iechyd y cyhoedd, iechyd a lles anifeiliaid, a chasglu tystiolaeth, gan ddibynnu ar anghenion y gwasanaeth.
Bwriedir i’r llwybr dilyniant gefnogi’r ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu cymhwysedd ymarferol mewn meysydd craidd gwaith diogelu’r cyhoedd, gyda chynnydd yn cael ei adolygu o bryd i’w gilydd gan y rheolwr llinell.
Pam ymuno â ni?
Mae hwn yn gyfle rhagorol i ymuno â gwasanaeth rheoleiddiol rheng flaen amrywiol a gwerth chweil. P’un a ydych yn awyddus i ddatblygu i fod yn Swyddog Diogelu’r Cyhoedd drwy lwybr dilyniant â chefnogaeth, neu os oes gennych eisoes y profiad i weithredu ar y lefel honno, mae’r rôl hon yn cynnig cyfle i adeiladu neu barhau gyrfa ystyrlon sy’n diogelu iechyd y cyhoedd, cymunedau a’r amgylchedd.
Iaith Gymraeg
Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Cymraeg, a gellir darparu cefnogaeth i helpu ymgeiswyr llwyddiannus i gyrraedd y safon ofynnol o fewn 2 flynedd.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae hon yn swydd lawn amser barhaol am 37 awr yr wythnos. Efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol o bryd i’w gilydd ac mewn gwahanol leoliadau swyddfa ledled y Sir, yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person (Gradd 8)
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person (Gradd 10)
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch
Am ragor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Heddwyn Evans ar 01545 570881 neu drwy e-bost ar heddwyn.evans@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn arwain y ffordd o ran perfformiad corfforaethol, polisi corfforaethol, partneriaethau strategol, ymgysylltu, cydlyniant cymunedol ac argyfyngau sifil, ac mae gennym hefyd gyfrifoldeb strategol a gweithredol dros ddiogelu’r cyhoedd: iechyd yr amgylchedd, twyll bwyd, safonau trwyddedu a masnachu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: